Skip to main content

Arolwg

Palas canoloesol mawreddog yr un mor odidog â’i gadeirlan

Dim ond un swydd oedd ar y brig i glerigwr uchelgeisiol yng Nghymru ganoloesol, sef Esgob Tyddewi yn Sir Benfro. 

Datganodd pab yn y 12fed ganrif fod dwy daith i Dyddewi gywerth ag un i Rufain – gan droi’r cyntaf yn ganolfan i bererinion o bob rhan o’r byd gorllewinol. Heidiodd pobl yn eu miloedd i weld cysegr Dewi Sant yn y gadeirlan newydd.    

Ond ni allai cartref yr esgob gystadlu â’r gwychder hwn. Yna daeth Henry de Gower. Rhwng 1328 a 1347 trodd yntau adeilad nad oedd yn weddus ond i ‘weision ac anifeiliaid’ yn balas eang.

Yr adain ddwyreiniol oedd ei ardal breifat ef. Roedd yr adain ddeheuol ar gyfer rhodres a seremoni. Yma yn y neuadd fawr y byddai Esgob Henry yn gweinyddu cyfiawnder, yn cynnal gwleddoedd ac yn croesawu pererinion o fri.    

Y Diwygiad oedd dechrau’r diwedd. A dweud y gwir, mae’n ddigon posibl fod William Barlow, Esgob Protestannaidd cyntaf Tyddewi, wedi tynnu’r plwm oddi am y to ei hun er mwyn sbarduno dirywiad araf. Ond hyn yn oed yn adfail, mae’r palas hwn yn lle syfrdanol wrth ymyl ei gadeirlan ogoneddus.

Sut i ymweld
•    prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd (neu archebwch ar-lein)*
•    gwiriwch ein hamseroedd agor a’n prisiau isod
•    cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.

*ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.

Mwy am Lys yr Esgob Tyddewi   


Amseroedd agor

Bob dydd 9.30am–5pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Bob dydd 9.30am–6pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Bob dydd 9.30am–5pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Bob dydd 10am–4pm*

*Bydd Llys yr Esgob Tyddewi ynghau ddydd 16, 17 & 18 Ionawr.

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau a Thocynnau

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£5.00
Teulu*
£16.30
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£3.60
Pobl hŷn (Oed 65+)
£4.80

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim.

Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas yn derbyn gostyngiad o 10% oddi ar bris tocyn mynediad unigol wrth ei brynu wrth gyrraedd

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£5.90
Teulu*
£18.90
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£4.10
Pobl hŷn (Oed 65+)
£5.70

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim.

Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein).


Cyfleusterau

Access guide icon Newid cewynnau icon Lle i gadw beiciau icon Pay and Display car park icon Croeso i gŵn icon Arddangosfa icon Siop roddion icon Tywyslyfr icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon Byrddau picnic icon Clyw cludadwy icon Ymweliadau ysgol icon Toiledau   icon Llogi Safle icon Gorsaf Ail-lenwi â Dŵr icon

Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.

Llys yr Esgob Tyddewi  — Canllaw Mynediad

Toiledau gyda chyfleusterau i newid babanod.

Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.

Mae'r prif faes parcio (Merivale) o fewn pellter cerdded cyr ar hyd ffordd arwynebog gyda rhai llethrau (300 metr).

Mae lle i tua 100 o geir a sawl lle parcio i bobl anabl.

Nid yw parcio y tu allan i'r heneb yn gyfyngedig ond mae'n brysur iawn yn ystod gwyliau'r ysgol ac ar ddydd Sul. Fodd bynnag, gellir ei ddefnyddio fel man gollwng.

Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.

Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.

Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.

Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.

Mae meinciau a /neu fyrddau picnic ar gael i ymwelwyr eu defnyddio.

 

Mae dolen sain gludadwy ar gael.

Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.

Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!

Mae toiledau ymwelwyr ar y safle hwn.

Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.

Mae gorsaf ail-lenwi â dŵr ar gael ar y safle hwn.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
A487 i Dyddewi, isffordd heibio’r Eglwys Gadeiriol
Rheilffordd
25km/16mllr, Gorsaf Drên Hwlffordd, ar lwybr Aberdaugleddau.
Bws
250m/270llath, llwybr Rhif 411 Hwlffordd -Tyddewi/Abergwaun. Llwybr Rhif 413 Abergwaun/Tyddewi.
Beic
RBC Llwybr Rhif 4 Ar y Llwybr.

Cod post SA62 6PE.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50

 


Cysylltu â ni

Rhif ffôn 03000 252239

E-bost
STDavidsBishopsPalace@llyw.cymru

Cyfeiriad
Llys yr Esgob Tyddewi
The Close
Tyddewi
Sir Benfro SA62 6PE

Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01437 720517
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.