Drysau Agored - Eglwys Sant Nidan, Llanidan (Brynsiencyn)
Os yw eglwys wreiddiol Nidan Sant, a sefydlwyd yn 616 O.C. allan o’r golwg mewn man tawel, i’r de o bentref Brynsiencyn ac o fewn tafliad carreg i Afon Menai, anodd yw peidio â sylwi ar eglwys newydd Llanidan wrth ichi deithio i mewn i’r pentref ar hyd yr A4080. Fe’i hadeiladwyd rhwng 1839 ac 1843 yn dilyn twf ym mhoblogaeth Brynsiencyn a dirywiad yn adeiladwaith yr eglwys wreiddiol tua hanner milltir i ffwrdd oddi wrthi.
Fel ei rhagflaenydd, cysegrwyd yr eglwys hon hefyd i Nidan, sant Cymraeg o’r seithfed ganrif a oedd yn gyffeswr mynachlog Penmon yn nwyrain Môn.
Y bwriad gwreiddiol oedd adeiladu tŵr pigfain ond ni ddigwyddodd hyn. Yn hytrach, yn nhridegau’r ganrif ddiwethaf, ychwanegwyd y murfylchau nodedig ar ben y tŵr: nodwedd sy’n rhoi i’r eglwys ei chymeriad hynod.Cymysg fu’r ymateb i gynllun ac adeiladwaith yr eglwys i ddechrau gan rai a ystyriai pensaernïaeth yr eglwys wreiddiol cryn dipyn yn well. Ond, ‘anghyffredin’ ai peidio, mae’n adeilad Gradd II rhestredig ac yn cynnwys sawl elfen ddiddorol, yn eu plith y bedyddfaen sy’n dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg o’r ‘hen’ eglwys, yn ogystal â dwy gloch a’r greirfa oddi yno y tybir ei fod yn cynnwys gweddillion Sant Nidan.
Cyfeiriad - Eglwys Sant Nidan, Llanidan (Brynsiencyn), Ynys Môn, LL61 6TT. SH 489674
Saif yr eglwys ar y A4080 fel yr ydych yn dod i mewn i bentref Brynsiencyn o Lanfairpwllgwyngyll.
Mae ramp ar gael i ddefnyddwyr cadair olwyn.
Fe fydd yr eglwys ar agor gyda stiwardiad wrth law Dydd Sul 28 Medi rhwng 11yb a 4yp.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sul 28 Medi 2025 |
11:00 - 16:00
|