Mae Neuadd Bodorgan yn enghraifft wych o blasty Neo-glasurol hwyr o’r 18fed ganrif a ddyluniwyd gan y pensaer lleol nodedig, John Cooper o Fiwmares. Cwblhawyd yr adeilad yn 1784. Mae Ystad Bodorgan yn ne-orllewin Ynys Môn gyda'r Neuadd ei hun yn edrych dros Aber Malltraeth.
Bydd Neuadd Bodorgan ar agor ar gyfer dau taith treftadaeth, ar 5 Medi 2026 am 9am a 10.30am. Bydd eitemau amrywiol o gelf a hynafiaethau cenedlaethol a chyfandirol yn cael eu dangos i'r ymwelwyr. Mae teithiau'n gyfyngedig i grwpiau 8 person.
Rhaid archebu drwy e-bost ar info@bodorgan.com or 01407 840 253
Neuadd Bodorgan, Swyddfa Estate, Bodorgan, Sir Mon, LL62 5LP.
Cyfarwyddiadau – dewch at yr Ystâd o droad Llangadwaladr wrth ymyl Sarn Lodge. Dilynwch y ffordd i fyny drwy'r goedwig a throwch i'r dde wrth y gyffordd ger prif giatiau'r Ystâd. Parhewch ar hyd y lôn hon a throwch i'r chwith i Rodfa’r Ystâd, gan ddilyn yr arwydd Swyddfa'r Ystâd. Parhewch i lawr lôn yr ystâd i faes parcio'r Ystâd dros y groesffordd gyntaf. Caiff ymwelwyr eu cyfeirio wedyn i’r Neuadd.
Dim mynediad i gadeiriau olwyn.
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 05 Med 2026 |
09:00 - 12:00
|