Skip to main content

Ni fu darganfod hanes Cymru erioed yn gymaint o hwyl. Mae ein cestyll yn gartref i straeon gorau ein gorffennol, maen nhw’n ysbrydoli’r chwedlau, y straeon tylwyth teg a’r hanesion ‘un tro’ gorau sydd.

Castell Biwmares 

Gyda'i gylchoedd o furiau a ffos llawn dŵr, mae castell Biwmares wedi cael ei ddisgrifio fel y castell sydd wedi ei gynllunio orau yng Nghymru. Dewch i ddarganfod mwy am sut y cafodd ei adeiladu drwy fynd ar ‘Helfa Castell,’ er mwyn chwilio am farciau seiri maen ac arddangosfeydd rhyngweithiol sydd wedi eu cuddio o gwmpas y gerddi. 

Ymwelwyr/Visitors

Castell Caernarfon

Mae digon yng nghaer enwocaf Cymru i gadw plant yn brysur am ddiwrnodau. Ar ôl dringo’r bylchfuriau ewch ar yr ‘Helfa Castell’ i ddod o hyd i fwystfilod cudd sy’n gysylltiedig â Chaernarfon. Yn ystafell ‘Gêm y Goron’ Tŵr yr Eryr cewch gyfarfod Tywysog Cymru. Mewn mannau eraill yn y castell cewch ddarganfod y chwedl hynafol Gymreig fu’n help i ddarbwyllo Brenin Edward I bod cyfiawnhad iddo adeiladu ei gastell yma ym mherfeddion Cymru, a chewch eich hudo gan yr arddangosfa gain sy’n gofeb i wraig Edward, y Frenhines Eleanor. 

Ymwelwyr/Visitors

Castell Caerffili

Am antur hanesyddol fwyaf Cymru, ewch i gastell mwyaf Cymru. Ewch draw i ‘Ffau’r Dreigiau’, cartref teulu o ddreigiau Cymreig sy’n dod yn fyw diolch i arddangosfa glywedol sy’n cynnwys mwg a chwyrnu. . Cadwch lygad hefyd am y copïau o injans gwarchae ar blatfform argau’r de. Maen nhw’n cynnwys y magnelau brawychus, arfau rhyfel sy’n dod yn fyw yn ystod rhaglen brysur Caerffili o ddigwyddiadau’r haf.

Caerphilly Dragons

Castell Coch, ger Caerdydd

Mae’r castell hwn yn sicr o ddenu diddordeb plant. Mae Castell Coch, creadigaeth Fictoraidd o dyrrau conigol, chwedlau a ffantasi, yn edrych fel lleoliad stori Y Rhiain Gwsg. Mae rhagor o chwedlau y tu mewn - yn llythrennol, gan fod ei du mewn blodeuog wedi ei addurno â golygfeydd o Chwedlau Aesop, straeon o’r hen Roeg. Ac mae tylwyth teg hefyd - fel y byddech yn eu disgwyl mewn castell tylwyth teg. Lawrlwythwch ap Cadw i ddechrau chwilio’n ddigidol am bob un o’r tylwyth teg sy’n hedfan o gwmpas y lle. Ymysg y nodweddion hudol eraill mae teganau Fictoraidd optegol sy’n dod â Chastell Coch yn fyw fel petai ei adeiladwyr, teulu hynod gyfoethog Bute, newydd orffen eu creadigaeth hudol, tafluniad digidol yn y gegin, a hyd yn oed gêm gwres canolog Fictoraidd.

Castell Coch - family group at entrance

Castell Conwy a Muriau'r Dref

Mae drama a chyffro ym mhobman yn y gaer ganoloesol awdurdodol hon. Dringwch y grisiau troellog i’r bylchfuriau er mwyn gweld golygfeydd gwych o arfordir a thir gogledd Cymru. Gallwch hefyd brofi’r cyffro o grwydro cylch o furiau tref canoloesol Conwy - un o’r gorau yn Ewrop - drwy ddilyn ‘Helfa’ ar ap Cadw sy’n dadorchuddio chwedl y jac do ac yn datgelu cysylltiad yr aderyn â’r dref hynafol.

Castell Conwy - golygfa o'r awyr

Castell Cricieth

Daw hanes hir a chymhleth Cricieth i’r golwg yn yr ‘Helfa Castell’, ble rydych chi’n helpu’r bardd Iolo Goch ddod o hyd i’r awen ar gyfer ei gampwaith nesaf, a chewch eich cyflwyno i arddangosfeydd rhyngweithiol yn y ganolfan ymwelwyr sydd newydd gael ei hadnewyddu. Eisteddwch ar ‘Orsedd y Tywysog’ er mwyn cyfarfod cymeriadau hanesyddol allweddol a chwaraewch ‘Pêl Bŵer y Tywysog’, arddangosfa lawn hwyl sy’n olrhain llinell amser Tywysogion Gwynedd. A allwch chi ateb yr holl gwestiynau a chyrraedd y diwedd?

Castell Cricieth/Criccieth Castle

Castell Dinbych

Dilynwch yr ‘Helfa Castell’ o gwmpas y castell a chwblhewch lwybr digidol ‘Her Castell Dinbych’ ar ap Cadw sy’n mynd â chi i’r gerddi a muriau’r dref. Gallwch chi ddewis chwarae un o dri chymeriad: Tom Gwas y Gegin, Eleanor de Clare neu Huw yr Ysbïwr. Wedi eu hysbrydoli gan wrthrychau a ddarganfuwyd wrth gloddio’r castell, mae gan bob cymeriad her i’w chwblhau a chryfderau unigryw er mwyn gwneud hynny.

Castell Dinbych/Denbigh Castle

Castell Oxwich

Ar gau

Castell Oxwich/Oxwich Castle

Castell Rhaglan

Castell hardd Rhaglan, sydd wedi ei amgylchynu â thir gwyrdd y ffin, yw’r lle perffaith i fynd am bicnic gyda’r plant. Ar ôl ymlacio, gallan nhw fynd i chwilio am greaduriaid tanllyd drwy ddefnyddio’r gêm ‘Dreigiau Bach’ ar ap Cadw, neu ewch ar ‘Helfa Castell’ i chwilio am ddyfeisiadau gwirion Edward y Dyfeisiwr. Dilynwch y llwybr a phenderfynu pa rai sy’n rhai go iawn. Beth am y torrwr gwair Tuduraidd?

Castell Rhaglan/Raglan Castle

Castell Rhuddlan

Dilynwch yr ‘Helfa Castell’ i chwilio am gliwiau sy’n datgelu stori’r castell canoloesol ‘muriau o fewn muriau’ arobryn hwn, y cyntaf o’i fath i gael ei adeiladu gan Frenin Edward I yng ngogledd Cymru. Dewch i fwynhau gemau canoloesol yn y gerddi, yn ogystal â phicnic mewn lleoliad sy’n edrych dros fryniau Clwyd ac afon Clwyd.

Castell Rhuddlan/Rhuddlan Castle