Dewch I ddatgloi hanes rhyfeddol Cymru am ddim fis Medi yma
Fis Medi yma mae pobl ar draws Cymru yn cael eu gwahodd i gamu y tu ôl i ddrysau caeedig a darganfod y dreftadaeth gyfoethog ar eu stepen drws wrth i ŵyl Drysau Agored Cadw ddychwelyd yn 2026.
Wedi'i hariannu a'i threfnu gan Cadw, mae'r ŵyl yn dwyn ynghyd sefydliadau treftadaeth, grwpiau cymunedol, lleoedd addoli, archifau, amgueddfeydd a gwirfoddolwyr o bob cwr o Gymru i gynnig mynediad am ddim i ystod eang o leoliadau gan gynnwys tirnodau eiconig yn ogystal â gemau cyfrinachol sydd anaml yn agored i'r cyhoedd.
O abatai a chestyll i gaerau Rhufeinig a charchardai Fictoraidd, mae amrywiaeth enfawr o leoliadau gwahanol yn cymryd rhan.
Yn ystod digwyddiad eleni bydd 19 o henebion eiconig Cadw yn agor eu drysau fel rhan o’r ŵyl – gan gynnwys Abaty Ystrad Fflur, Castell Harlech, a Thref Rufeinig Caer-went.
Mae’r ŵyl boblogaidd yn gyfraniad Cymru at y fenter Diwrnodau Treftadaeth Ewropeaidd, gyda’r nod o arddangos y tapestri cyfoethog o ddiwylliannau ar draws y cyfandir. Yng Nghymru, mae’n agor y drws i ymwelwyr o bob oed gamu i’r gorffennol, ymgolli yn nhreftadaeth ddeinamig y genedl, a datgelu’r straeon diddorol sydd wedi helpu i siapio ei hunaniaeth.
Dywedodd Dr Ffion Reynolds, Uwch Reolwr Digwyddiadau Treftadaeth a Chelfyddydau Cadw:
“Mae Drysau Agored yn gyfle gwych i ddathlu treftadaeth ryfeddol Cymru a’r bobl angerddol sy’n gofalu amdani.
“Drwy gydol mis Medi, bydd cannoedd o sefydliadau, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr ledled Cymru yn agor eu drysau, gan gynnig y cyfle i ddarganfod y straeon sy’n gwneud eu lleoedd yn arbennig. O gestyll a chapeli i archifau, amgueddfeydd a thirweddau hanesyddol, mae rhywbeth i bawb ei archwilio.
“Mae Drysau Agored yn annog pobl i ddarganfod rhywle newydd ar garreg eu drws, neu o’r diwedd gamu i mewn i adeilad y maent wedi mynd heibio iddo ddirifedi o weithiau ond heb ymweld ag ef erioed. Yr hyn sy’n gwneud yr ŵyl mor arbennig yw’r ffordd y mae cymunedau a sefydliadau ledled Cymru yn dod at ei gilydd i arddangos y dreftadaeth gyfoethog sy’n ein cysylltu ni i gyd.
“Mae rhaglen eleni yn cynnwys profiadau unigryw y tu ôl i’r llenni, teithiau tywys a mynediad i leoedd sydd anaml yn agored i’r cyhoedd. Rydym yn arbennig o gyffrous i groesawu ymwelwyr i rannau o fferm hanesyddol Mynachlog Fawr yn Ystrad Fflur, gan gynnig cyfle prin i archwilio rhan bwysig o dreftadaeth Cymru fel rhan o ŵyl eleni.”
Mae rhestr lawn o’r lleoliadau sy’n cymryd rhan ar gael ar wefan Cadw ac mae detholiad o uchafbwyntiau’r ŵyl isod:
DE CYMRU
Abaty Nedd, Castell-nedd Port Talbot
5 a 6 Medi, 10am-11.30am a 2pm-3.30pm
Sefydlwyd Abaty Nedd yn 1130 a dyma rai o adfeilion mynachaidd mwyaf trawiadol de Cymru. Ar gyfer Drysau Agored, bydd ymwelwyr yn gallu treiddio’n ddyfnach i’w stori ar deithiau tywys estynedig lle bydd hanesydd arbenigol Cadw yn datgelu sut mae olion yr abaty yn dangos cyfres o gyfnodau allweddol yn hanes De Cymru, gan gynnwys y cyrch Normanaidd, diddymu’r mynachlogydd a dechrau’r Chwyldro Diwydiannol.
Profiad y Bathdy Brenhinol, Llantrisant
Bob dydd Mercher ym mis Medi, 10am - 2pm.
Mae Profiad y Bathdy Brenhinol yn atyniad unigryw i ymwelwyr yn ne Cymru, sy’n cynnig cipolwg y tu ôl i’r llenni ar grefftwaith a hanes gwneud arian. Yn ystod Drysau Agored, bydd ymwelwyr yn gallu archwilio ei hanes dwfn, gan fynd y tu ôl i’r llenni ar dros 1,000 o flynyddoedd o’i thaith ddiddorol a chanfod sut y daeth i Gymru.
Archifau Morgannwg, Caerdydd
12f Medi, 10am – 3.30pm
Mae Archifau Morgannwg yn gartref i fwy na 12 cilomedr o gofnodion hanesyddol sy’n dyddio o’r 12fed ganrif hyd heddiw. Bydd ymwelwyr yn gallu mynd y tu ôl i’r llenni ar deithiau unigryw o amgylch y cyfleuster, archwilio canrifoedd o hanes lleol a gweld dogfennau gwreiddiol diddorol o bob rhan o dde-ddwyrain Cymru. Bydd aelodau o Gymdeithas Hanes Teulu Morgannwg hefyd wrth law i gynnig cyngor, gyda sgyrsiau am ddim ar ymchwilio i hanes teuluol Iwerddon, Cymru a Lloegr.
GORLLEWIN CYMRU
Abaty Ystrad Fflur, Ceredigion
25 Medi 10am – 2pm, 26 Medi, 12.30 – 3 pm
Dewch i ddarganfod un o safleoedd crefyddol canoloesol pwysicaf Cymru yn Abaty Ystrad Fflur, a ddisgrifir yn aml fel "Abaty Westminster Cymru". Fel rhan o Drysau Agored, bydd ymwelwyr yn gallu ymuno â theithiau tywys rhad ac am ddim sy’n archwilio hanes cyfoethog yr abaty, o’i sylfaen a bywydau mynachod Sistersaidd i’w gysylltiadau â Thywysogion y Deheubarth a mwynglawdd plwm Abaty Consols gerllaw. I’r rhai sy’n chwilio am brofiad mwy prin byth, bydd teithiau mae modd eu harchebu ymlaen llaw yn cynnig mynediad i lawr gwaelod ffermdy hanesyddol Mynachlog Fawr, gan roi cyfle iddynt gamu i adeilad nad yw fel arfer ar agor i’r cyhoedd a chlywed am gynlluniau i warchod ac i drawsnewid y fferm ehangach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Llys yr Esgob, Tyddewi, Tyddewi
26 a 27 Medi, 11am-4pm
Y llys hwn oedd prif gartref swyddogol Esgobion Canoloesol Tyddewi. Mae’n strwythur addurnol iawn, ac mae’n adlewyrchu grym a chyfoeth yr eglwys ganoloesol a’i Esgobion. Yn ystod Drysau Agored, mae teithiau tywys yn cynnig golwg fanylach ar hanes a mawredd y lleoliad hynod hwn.
Bwthyn Pontbrenmydyr, Aberaeron
12f a 13 Medi, 11am – 2pm
Archwiliwch un o’r bythynnod clom olaf i oroesi yng Nghymru, sef Bwthyn Pontbrenmydyr, cartref wedi'i adeiladu o fwd yn yr 17eg ganrif ac sydd wedi’i adfer yn hardd. Bydd ymwelwyr Drysau Agored yn gallu darganfod nodweddion gwreiddiol gan gynnwys lloriau cerrig cobl, trawstiau derw wedi’u duo gan fwg a hen gorau gwartheg, wrth ddysgu sut mae’r adeilad hanesyddol wedi’i addasu’n sensitif yn encilfa fodern gynaliadwy.
Archif Ddarlledu Cymru, Aberystwyth
9 Medi, 10am – 3pm.
Archwiliwch Archif Ddarlledu Cymru a dadorchuddio treftadaeth radio a theledu gyfoethog Cymru. Mae’r archif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn cadw miloedd o oriau o ddarllediadau sy’n cofnodi hanes, diwylliant a bywyd bob dydd Cymru. Fel rhan o raglen Drysau Agored, bydd ymwelwyr yn gallu gweld deunyddiau unigryw y casgliad, dysgu sut mae rhaglenni’n cael eu cadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a mwynhau clipiau sydd wedi’u dewis yn arbennig i ddathlu cymunedau gwledig ac amaethyddol Cymru.
Castell Talacharn, Talacharn
19 a 20 Medi, 11am – 4pm
Cewch fwynhau mynediad am ddim i’r castell canoloesol mawreddog hwn, a drawsnewidiwyd yn blasty Tuduraidd mawreddog yn ddiweddarach. Roedd y gerddi hyfryd yn awen, gyda Dylan Thomas a’r awdur enwog Richard Hughes yn defnyddio tŷ haf y castell i greu rhywfaint o’u gwaith gorau. Mae’r castell yn rhoi cipolwg hynod ddiddorol ar orffennol Cymru gan ei fod yn llawn canrifoedd o hanes, chwilfrydedd a gwrthdaro - dewch i’w archwilio eich hun.
GOGLEDD CYMRU
Carchar Rhuthun, Rhuthun
12 Medi, 12.30pm – 3pm
Tarwch olwg tu ôl i’r llenni yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn hen garchar Fictoraidd Rhuthun sy’n adeilad rhestredig Gradd II. Bydd ymwelwyr yn gallu archwilio sut mae canrifoedd o gofnodion yn cael eu cadw mewn storfeydd archif diogel a darganfod y straeon sydd wedi’u cuddio mewn dogfennau sy’n dyddio’n ôl i’r 12fed ganrif. Bydd gweithgareddau addas i deuluoedd a theithiau arbennig o’r archif hefyd yn cynnig cipolwg hynod ddiddorol ar hanes Sir Ddinbych a thu hwnt.
Castell Dinbych, Sir Ddinbych
19 a 20 Medi, 10am – 5pm
Archwiliwch un o gaerau canoloesol mwyaf trawiadol Cymru yng Nghastell Dinbych, sy'n rhan o "gylch cestyll" enwog Brenin Edward I. Cewch fwynhau mynediad am ddim i’r castell fel rhan o’r rhaglen Drysau Agored, a bydd teithiau tywys o amgylch nodweddion godidog y castell, gan gynnwys y porthdy tri thŵr trawiadol a’r llenfuriau arswydus gyda golygfeydd godidog, gweithgareddau i’r teulu, gweithdai a sgyrsiau. Mae pob un yn gyfle unigryw i ddarganfod hanes cyfoethog y castell enwog.
Dolbelydr, Sir Ddinbych
19 a 20 Medi, 10am – 4pm
Pur anaml y bydd Dolbelydr ar agor i’r cyhoedd, mae’n dŷ bonedd sydd wedi’i adfer yn hyfryd o’r 16eg ganrif. Credir mai dyma fan geni Cymraeg fodern, oherwydd dyma lle ysgrifennodd Henry Salesbury y gramadeg Cymraeg cyntaf. Bydd ymwelwyr yn gallu archwilio’r tu mewn hanesyddol a dysgu am gadwraeth yr adeilad rhyfeddol hwn, sy’n cadw llawer o nodweddion gwreiddiol o oes Elisabeth.
CANOLBARTH CYMRU
Castell a Gerddi Powis, Y Trallwng
12 a 13 Medi, 10am-5pm
Mae Castell Powis yng nghanol gwyrddni moethus gyda golygfeydd ysgubol o Ddyffryn Hafren. Mae’n adnabyddus am ei du mewn mawreddog a’i erddi teras byd-enwog. Mae’r castell wedi’i addurno â phaentiadau o’r radd flaenaf a ffabrigau addurnol sy’n rhychwantu’r cyfnodau Elisabethaidd i Edwardaidd. Yn ystod Drysau Agored, bydd ymwelwyr yn gallu crwydro’r castell a’i erddi godidog yn rhad ac am ddim.
Safle Monitro Corfflu’r Gwylwyr Brenhinol, Aberhonddu, Aberhonddu
12 Medi, 11am – 4pm
Ewch 15 troedfedd o dan y ddaear a darganfod bywyd ar reng flaen y Rhyfel Oer yn Safle Monitro Niwclear Corfflu’r Gwylwyr Brenhinol, Aberhonddu. Mae’r byncer wedi cael ei adfer i’w gyflwr gweithredol gwreiddiol ac mae’n rhoi cipolwg prin ar rôl gwirfoddolwyr Corfflu’r Gwylwyr Brenhinol a oedd yn monitro’r bygythiad o ymosodiad niwclear ledled y DU. Bydd ymwelwyr yn gallu archwilio’r safle tanddaearol sy’n llawn offer a chlywed straeon uniongyrchol gan gyn aelodau o Gorfflu’r Gwylwyr Brenhinol am y bennod ddiddorol hon o hanes modern.
Yr Hen Ysgol, Hwytyn
Drwy gydol mis Medi – dydd Llun/dydd Mawrth 11am – 5pm, dydd Sul 1pm-5pm
Dewch draw i Amgueddfa Tecstiliau Cymru i weld arddangosfeydd o wisgoedd Cymreig, cwiltiau ac eitemau brodorol sy’n adlewyrchu bywydau gwehyddion traddodiadol a’r cymunedau roedden nhw’n eu gwasanaethu. Mae’r amgueddfa mewn hen adeilad ysgol ac mae’n diogelu crefftau sydd mewn perygl ac yn addysgu crefftau fel cwiltio a smocwaith Cymreig.
Cynghorir ymwelwyr i edrych ar restrau digwyddiadau unigol gan fod y gofynion archebu’n amrywio rhwng lleoliadau.
I gael manylion yr holl leoliadau sy’n cymryd rhan, y dyddiadau a’r wybodaeth am docynnau, ewch i wefan Drysau Agored Cadw yma: https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/ddigwyddiad-drysau-agored