Drysau Agored - Dolbelydr
Wedi'i leoli mewn dyffryn bythol a thawel, mae gan y tŷ bonedd hwn o’r 16eg ganrif lawer o’i nodweddion gwreiddiol, gan gynnwys llawr cyntaf sy’n agored i drawstiau’r to. Mae'r tŷ wedi cael ei gymryd yn ôl i'w ffurf wreiddiol, i adeilad y byddai ei berchennog, Henry Salesbury, yn ei adnabod pe bai’n teithio yn ôl mewn amser i’r 1580au.
“Gweirglodd pelydrau’r haul ” yw un cyfieithiad o’r enw Dolbelydr, sy’n arbennig o wir wrth i chi syllu ar olau’r haul yn disgleirio ar hyd y ddaear o’r ffenestri myliynog i lawr y dyffryn tawel hwn. Mae yna gegin a man bwyta cynllun agored o flaen lle tân enfawr.
Mae modd dweud bod Dolbelydr, enghraifft wych o dŷ bonedd o'r 16eg ganrif, yn fan geni Cymraeg modern - yma ysgrifennodd Henry Salesbury ei Grammatica Britannica (1593), gramadeg cyntaf y Gymraeg.
Bydd y diwrnodau agored rhad ac am ddim hyn yn gyfle i weld y tu mewn i'r tirnod lleol pwysig hwn, nad yw ar agor i'r cyhoedd yn aml, a dysgu mwy am ei hanes a'r gwaith o’i adfer.
Mae'n well archebu.
https://www.eventbrite.co.uk/e/dolbelydr-open-days-cadw-open-doors-tick…?
aff=oddtdtcreator
Cyfeiriad - Dolbelydr, Trefnant, Dinbych, LL16 5AG.
What3words: reforming.uptake.urge
Gall fod ychydig yn anodd dod o hyd i Ddolbelydr. Dilynwch y cyfarwyddiadau hyn a chadwch lygad am arwyddion diwrnod agored:
Ar ôl cyrraedd cyrion Llanelwy, trowch i'r chwith wrth y gylchfan fach (ger yr Eglwys Gadeiriol) a pharhewch ar yr A525 tuag at Drefnant. Wrth y goleuadau traffig ym mhentref Trefnant, trowch i'r dde tuag at y B5428 sydd ag arwydd yn nodi Henllan arno.
(Os ydych chi'n teithio o Ddinbych ar yr A525 trowch i'r chwith wrth y goleuadau traffig ym mhentref Trefnant ar y B5428)
Dilynwch ffordd y B5428 dros groesffordd fach a pharhewch am tua hanner milltir arall. Ar y chwith mae porth a phorthdy bach ac yn syth ar ôl rhain, ar y dde, mae mynedfa Fferm Bryn Wgan (mae arwydd BRYN WGAN ar biler giât dde'r fynedfa).
Trowch i'r dde i lawr y lôn breifat hon a'i dilyn gan agosáu at iard y fferm. Ewch drwy'r giât ar eich ochr dde gyferbyn â choeden dderw fawr er mwyn dilyn y trac i Ddolbelydr.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 20 Medi 2025 |
10:00 - 16:00
|
Sul 21 Medi 2025 |
10:00 - 16:00
|