Llond trol o ddigwyddiadau g-wy-ch gan Cadw i ddathlu hanes Cymru dros y Pasg
Mae’n argoeli’n wanwyn cyffrous yn Cadw sydd ag amserlen lawn dop o ddigwyddiadau a gweithgareddau wedi'u cynllunio ar draws ei henebion hanesyddol dros wyliau'r Pasg.
O helfa wyau Pasg i ddilyn llwybrau’r cwningod, o gamu'n ôl i fwrlwm y canol oesoedd i ddysgu sgiliau newydd mewn gweithdai syrcas, mae rhywbeth at ddant pawb gan Cadw dros wyliau'r Pasg. Bydd yna brofiadau hwyliog, anturus ac addysgol i ymwelwyr hen ac ifanc.
Meddai Pennaeth Cadw, Gwilym Hughes:
"Mae gwyliau'r Pasg yn amser perffaith i deuluoedd fynd am dro ac archwilio hanes gwych Cymru a'r straeon cyfoethog sydd ar garreg eu drws. Roedden ni’n awyddus i greu amserlen yn llawn dop o ddigwyddiadau fel y gallai teuluoedd fwynhau amser gwerth chweil gyda'i gilydd ond hefyd roedden ni am ysbrydoli ymdeimlad o falchder a chwilfrydedd am ein treftadaeth Gymreig.
"Bydd y plant yn cael mynd am ddim gydag unrhyw oedolyn sy’n aelod, sy'n cynnig gwerth gwych am arian i deuluoedd sydd am ymweld droeon gydol y flwyddyn. Mae aelodau'n mwynhau mynediad diderfyn i 132 o leoliadau hanesyddol ledled Cymru gydol y flwyddyn, ynghyd â gostyngiadau unigryw yn siopau rhodd Cadw ac atyniadau tebyg ledled y DU."
Dyma flas o'r hyn sydd ar gael ar draws rhai o leoliadau mwyaf poblogaidd Cadw yng Nghymru y gwanwyn hwn:
Gorllewin Cymru
- Llwybr y Pasg: Gadewch i ni ddefnyddio Camera Castell Cydweli
Dydd Sul 20 a dydd Llun 21 Ebrill, 10:00-16:00
Dewch i ddal harddwch Castell Cydweli, campwaith Normanaidd sy'n edrych dros Afon Gwendraeth. Bydd teuluoedd yn dilyn y llwybr ac yn tynnu lluniau o dirnodau a nodweddion penodol ar dir y castell, gweithgaredd perffaith ar gyfer cyw-ffotograffwyr a’r rheini sydd wrth eu bodd gyda hanes.
- Hwyl y Pasg, Castell Talacharn
Dydd Sul 20 a dydd Llun 21 Ebrill, 11:00-16:00
Dewch i ddarganfod Castell hudolus Talacharn yn ystod ei Helfa Wyau Pasg flynyddol, lle bydd ymwelwyr yn chwilio am wyau sydd wedi’u cuddio ar draws tiroedd y castell gyda chyfle i ennill gwobr Pasg! Mae croeso i chi wisgo’ch bonet Pasg.
De/canolbarth Cymru
- Llwybr Guto Gwningen, Baddonau Rhufeinig Caerllion
Bob dydd o ddydd Sadwrn 12 Ebrill i ddydd Sul 27 Ebrill, 10:00-16:00
Plymiwch i faddonau Rhufeinig Caerllion er mwyn helpu Guto Gwningen i ddod o hyd i'w holl ffrindiau sydd wedi'u cuddio ar hyd y llwybr troellog trwy un o ddim ond tair caer llengfilwrol barhaol sy'n weddill ym Mhrydain.
- Torrwch y Cod dros y Pasg, Castell Cas-gwent
Bob dydd o ddydd Llun 14 Ebrill i ddydd Sul 20 Ebrill, 10:00-16:00
Camwch i esgidiau’r torrwr cod canoloesol yng Nghastell Cas-gwent, yr amddiffynfa garreg ôl-Rufeinig hynaf sydd wedi goroesi ym Mhrydain. Bydd teuluoedd yn cael eu cadw’n brysur yn chwilio am gliwiau i ddatgelu'r cyfrinachau cudd sydd o fewn muriau'r castell.
- Antur Pasg Tretŵr, Llys a Chastell Tretŵr
Dydd Sadwrn 19 i ddydd Llun 21 Ebrill, 10:00-16:00
Ymunwch â llwybr y cwningod yn Llys a Chastell Tretŵr, rhyfeddod pensaernïol dau-mewn-un. Dewch i ddarganfod y tiroedd godidog a dilynwch y cliwiau i gwblhau'r antur. Gyda chyfle i ennill trit blasus!
- Llwybrau'r Gwningen a Straeon y Pasg, Gwaith Haearn Blaenafon
Bob dydd o ddydd Gwener 18 Ebrill i ddydd Gwener 25 Ebrill, 10:00-16:00
Gall ymwelwyr ddilyn y llwybr Wyau Pasg yng Ngwaith Haearn Blaenafon, gan ddod o hyd i wyau cudd a dysgu straeon diddorol am dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog yr ardal. Bachwch ar y cyfle i wrando ar straeon gwych am draddodiadau'r Pasg yng Nghymru gyda'r storïwr ar 18, 19 a 21 Ebrill hefyd!
Gogledd Cymru
- Helfa Wyau Pasg, Castell Cricieth
Dydd Sul 20 Ebrill, 11:00-15:00
Ymunwch â'r Helfa Wyau Pasg yng Nghastell Cricieth, y castell adfeiliedig o'r drydedd ganrif ar ddeg sy'n edrych dros Fae Tremadog. Chwiliwch am drysorau cudd ar draws tiroedd y castell, gan fwynhau'r golygfeydd syfrdanol ar draws Bae Ceredigion.
- Hwyl y Pasg, Castell Dinbych
Dydd Sadwrn 19 Ebrill a dydd Sul 20 Ebrill, 10:00-16:00
Gall teuluoedd fwynhau diwrnod allan ar benwythnos y Pasg yng Nghastell Dinbych. Bydd amserlen brysur o weithgareddau’r castell yn cynnwys Helfa Wyau Pasg, ail-greu brwydr ganoloesol, perfformiadau canu a dawns rhyngweithiol, a chrefftau.
- Helfa’r Pasg, Castell Caernarfon
Dydd Sadwrn 19 Ebrill a dydd Sul 20 Ebrill, 10:00-16:00
Dewch ar antur i ddarganfod Castell Caernarfon, caer ganoloesol a gydnabyddir fel un o adeiladau mwyaf yr Oesoedd Canol. Bydd y plantos yn dilyn y cliwiau ac yn cwblhau heriau i ddatgelu'r wy Pasg prinnaf oll!
- Hwyl Ganoloesol y Pasg, Castell Biwmares
Bob dydd o ddydd Gwener 18 Ebrill i ddydd Llun 21 Ebrill, 10:00-17:00
Mae Wyau Pasg Castell Biwmares yn eu hôl gyda phenwythnos gŵyl y banc o weithgareddau hwyliog i bob oedran. Gall ymwelwyr fwynhau Helfa Wyau Pasg (dydd Sul a dydd Llun yn unig), gweithdai syrcas, a gweithgareddau gwersyll canoloesol, gan gynnwys saethyddiaeth a threialon arfwisg.
- Helfa Wyau Pasg a Chwarae o Gwmpas, Plas Mawr
Dydd Sul 20 Ebrill, 10:00-16:00
Mwynhewch Sul y Pasg ym Mhlas Mawr, y tŷ tref Elisabethaidd gorau ym Mhrydain. Ymunwch yn Helfa Wyau'r Pasg a mwynhewch berfformiadau bywiog gan Gellweiriwr Conwy mewn lleoliad hanesyddol cwbl unigryw.
- Cwest Graddio'r Marchogion, Castell Conwy
Dydd Sul 20 Ebrill, 10:00-16:00
Gall cyw-farchogion a'u teuluoedd gychwyn ar daith gyffrous yng Nghastell Conwy i ddod o hyd i arfwisg y Marchog Carwyn. Ewch i chwilota o gwmpas yr amddiffynfa ysbrydoledig a darganfod darnau cudd o'i wisg wedi'u gwasgaru ar hyd a lled y castell cyn i’ch amser ddod i ben!
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiadau’r mis, ewch i wefan swyddogol Cadw: https://cadw.llyw.cymru