Skip to main content
Redirecting to https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw Redirecting to https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw. Redirecting to https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw Redirecting to https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw. Redirecting to https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw Redirecting to https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw.

Bydd Castell Biwmares yn croesawu marchogion rhyfelgar i’r castell dros benwythnos Gŵyl Banc.

Dewch draw i hyfforddi i fod yn farchog yn yr Ysgol i Farchogion ar gyfer plant. Gall oedolion hefyd roi cynnig ar ddysgu rhai sgiliau sylfaenol ymladd â chleddyf, a dysgu am arfau a saethyddiaeth mewn arddangosfeydd a sgyrsiau.

Mae yna weithdy sgiliau syrcas i gellweiriwyr hefyd, lle gall yr hen a’r ifanc ddysgu rhai o’r giamocs y mae cellweiriwyr yn eu defnyddio i ddiddanu. 

Ymunwch â Thŷ’r Seren Ddu, a dysgwch ddriliau a sgiliau gwaywffon, a gweld sut y byddai’r milwyr yn ymosod ar y castell neu ei amddiffyn. Bydd yna adrodd straeon, arddangosfeydd coginio, meddyginiaeth ganoloesol a gwaith lledr, a chewch sgwrsio am sut roedd pobl yn byw yng Nghymru’r Oesoedd Canol.

Bydd cerddorion yn crwydro’r castell yn chwarae cerddoriaeth ganoloesol i bobl y dref ei mwynhau. Mae croeso i chi ddangos rhai o’ch symudiadau i ni os dymunwch!

 

Sut i ymweld

•    prynwch eich tocynnau digwyddiad wrth gyrraedd (neu archebwch ar-lein)*
•    edrychwch ar amseroedd digwyddiadau a’r prisiau isod

*Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn. Ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.

I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Castell Biwmares