Mae'r Nadolig yn Dechrau Yma!
Gwisgwch eich siwmper Nadoligaidd ac ymunwch yn hwyl yr ŵyl gyda ni!
Dewch i gwrdd â Siân a Siôn Corn er mwyn gweld a yw eich enw ar y rhestr o blantos da eleni.
Bydd angen talu’r ffi fynediad arferol.
Hefyd – os ydych eisiau mynd i mewn i’r groto i gael anrheg gan Siôn Corn, rhaid prynu tocyn o’r ganolfan ymwelwyr ar y diwrnod. Bydd yn costio £5 yr un i blant fynd i’r groto a chael anrheg.
Bydd llwybr arbennig i blant ei ddilyn, yn rhad ac am ddim, a bydd Siân Corn yno i roi anrheg fach iddyn nhw.
Bydd Jim y Jygliwr yno hefyd i’ch diddanu, yn ogystal â phobl yn canu carolau.
Ni fydd angen archebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn cyn cyrraedd y castell.
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 30 Tach 2024 |
11:00 - 15:00
|
Sul 01 Rhag 2024 |
11:00 - 15:00
|
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£9.50
|
Teulu* |
£30.40
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr |
£6.70
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£8.80
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim. Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein). |