Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

‘Abaty tecaf’ Cymru’n rhoi cychwyn gwych i ŵyl Drysau Agored gyda mynediad unigryw i ddaeargell 800 mlwydd oed.

Fis Medi eleni, bydd dros 200 o nodweddion ac atyniadau hanesyddol mwyaf eiconig Cymru’n croesawu miloedd o ymwelwyr fel rhan o ŵyl dreftadaeth Cymru gyfan, Drysau Agored.

Mae’r ŵyl, sy’n cael ei hariannu a’i threfnu gan Cadw, yn cynnig mynediad am ddim i ddewis eang o amgueddfeydd, eiddo treftadaeth a mannau anarferol drwy gydol mis Medi.

Lansiwyd rhaglen Drysau Agored ar gyfer 2019, sy’n addo cynnig mynediad unigryw i fwy o gyfrinachau treftadaeth Cymru nag erioed o’r blaen, yn Abaty a Phorth Mynachlog Nedd heddiw (29 Awst) – safle a ddisgrifiwyd gan yr hynafiaethydd Tuduraidd, John Leland, fel ‘yr Abaty tecaf yng Nghymru gyfan’.  

Mae’n un o blith 29 safle Cadw sy’n cymryd rhan yng ngŵyl Drysau Agored eleni, gyda detholiad o gestyll, abatai, siambrau claddu ac eiddo diddorol eraill Cadw’n agor yn rhad ac am ddim ac yn cynnig teithiau tywys na welwyd mo’u tebyg erioed o’r blaen, a gweithgareddau dros bob penwythnos ym mis Medi.

Bwriedir cynnal dau ddigwyddiad Drysau Agored ym Mynachlog Nedd, ar ddydd Sadwrn 28 a dydd Sul 29 Medi, pan wahoddir ymwelwyr i blymio i ddyfnderoedd daeargell y safle – siambr a adnewyddwyd yn ddiweddar, ac a fu’n amhosib mynd iddi ers sawl blwyddyn oherwydd gwaith cadwraeth.

Arferai’r Abaty, oedd yn gartref i fynachod Sistersaidd, arddangos ysblander Oes y Tuduriaid a gwelwyd diwydiant yn ffynnu yno ar hyd y canrifoedd. Mae wedi elwa o welliannau strwythurol a deongliadol sylweddol dros y ddegawd ddiwethaf – gyda gwaith hanfodol ar y ddaeargell newydd ddod i ben, diolch i waith seiri maen crefftus.

Bydd ymwelwyr Drysau Agored yn mwynhau golwg gyntaf ar y siambr sydd newydd ei chwblhau, a gallant weld arteffactau diddorol ac olion mynachaidd trawiadol o hanes maith y Fynachlog dros 900 mlynedd – a’r cyfan dan arweiniad arweinydd taith arbenigol.

Bydd rhaglen Drysau Agored eleni, a gynlluniwyd i ddathlu Blwyddyn Darganfod Cymru 2019, yn rhoi cyfle i ymwelwyr ddatgelu rhai o emau cudd gorau Cymru – wrth i rai lleoliadau agor eu drysau i’r cyhoedd am y tro cyntaf erioed, bydd teithiau tywys unigryw sy’n mynd i bob twll a chornel yn cael eu cynnig mewn safleoedd treftadaeth ledled y wlad.

O fwynhau’r golygfeydd dramatig mewn paradwys arddwriaethol 80 erw yng Ngerddi Bodnant, i ddysgu straeon am Gramen Ynnau o’r Ail Ryfel Byd ym Mhen-bre, mae’n sicr y bydd digwyddiadau eleni’n cynnig rhywbeth i bob oedran a diddordeb.

Ymhlith safleoedd anarferol eraill sy’n cymryd rhan yng ngŵyl Drysau Agored mae Cae’r Gors – cartref plentyndod yr awdur nodedig Kate Roberts. Bydd y safle ar agor i ymwelwyr ar 21 a 22 Medi, a bydd arbenigwr lleol yn dod â gwaith ysbrydoledig ‘brenhines ein llên’ yn fyw drwy gyfrwng darluniau diddorol o’r gymuned chwarelyddol yn ystod troad yr ugeinfed ganrif.

Yn y cyfamser, ar ddydd Sadwrn 07 a dydd Sul 08 Medi, bydd Tŷ Canoloesol Hafoty, adeilad ffrâm bren o’r 16eg ganrif, gyda hanes adeiladu cymhleth, ar agor – a bydd ymwelwyr yn cael taith dywys drylwyr o gwmpas y tŷ, sy’n llawn o hanes lliwgar, a chipolwg o addurniadau gwreiddiol, hardd y safle.

Meddai’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Mae Cadw wedi ymrwymo i wneud hanes Cymru’n hygyrch i bawb ac mae Drysau Agored yn rhaglen ragorol sy’n cynnwys y wlad gyfan, ac sy’n gwneud hynny’n union.

“Drwy gyfrwng mynediad am ddim, digwyddiadau unigryw a theithiau tywys arbennig, mae digonedd i annog pobl i ddarganfod treftadaeth Cymru yn ystod mis Medi. Felly, gobeithio y bydd Drysau Agored 2019 yn ysbrydoli pobl leol ac ymwelwyr o bob oedran a chefndir i ddysgu mwy am safleoedd mwyaf adnabyddus Cymru, a’i gemau cudd, fel ei gilydd.

“Wedi’r cyfan, pa well adeg i ddarganfod y gorau o ddiwylliant a hanes Cymru nag yn ystod Blwyddyn Ddarganfod Cymru 2019?”  

Gellir gweld rhaglen lawn y digwyddiadau yn safleoedd Cadw isod.