Drysau Agored - Hen Eglwys Blwyf Llangar
Mae eglwys blwyf wladaidd Llangar sydd gerllaw yn edrych dros ddyffryn Dyfrdwy. Cafodd yr eglwys ganoloesol hon ei hailfodelu ar ddechrau'r 18fed ganrif gyda dodrefn a ffitiadau i adlewyrchu arferion crefyddol y cyfnod. Ynddi mae olion cymaint ag wyth o gynlluniau murlun, y gallai'r cynharaf ohonynt ddyddio nôl i'r 14eg ganrif. Mae trefn syml y seddau, sy'n canolbwyntio ar y pulpud yn hytrach na'r allor, yn debycach i gapel anghydffurfiol nag eglwys Anglicanaidd.
Cyrraedd yno - Hen Eglwys Plwyf Llangar: Dilynwch yr A5 i'r gogledd-orllewin tuag at y B4401 1.2 milltir/2km i'r de-orllewin o Gorwen. Mae'r eglwys 330 llath/300m ar droed o'r B4401. Rheilffordd: Wrecsam 22 milltir/35km llwybr Caer - Amwythig. Bws: Rhif 94 Wrecsam - Dolgellau - Abermo