Drysau Agored — Castell Rhuddlan
Am ganrifoedd, bu Castell Rhuddlan yn lleoliad strategol a welodd lawer o frwydrau gwaedlyd. Llwyddodd Edward I i atal yr ymosodwyr yn ddigon hir i adeiladu castell cymesur cadarn gan ddefnyddio'r dechnoleg 'muriau o fewn muriau' ddiweddaraf. Roedd angen i Edward I gael mynediad i'r môr er mwyn cyflenwi ei gastell felly dargyfeiriodd Afon Clwyd am dros 2 filltir er mwyn darparu sianel dŵr dwfn ar gyfer llongau. Mae olion porth afon amddiffynnol i'w gweld o hyd yng nghylch allanol y muriau. Chwaraeodd y castell rôl allweddol hefyd yn hanes Cymru: dyma lle y cafodd system newydd o lywodraeth Seisnig ei sefydlu dros lawer o Gymru gan Statud Rhuddlan (1284) - cytundeb a barhaodd tan y Ddeddf Uno yn 1536. Ar ôl y Rhyfel Cartref, ystyriwyd bod y castell yn anghynaliadwy - dyna'r rheswm dros ei gyflwr heddiw.
Cyfarwyddiadau - Ffordd: Rhuddlan ar hyd yr A525 neu'r A547. Rheilffordd: 4 milltir/6km Rhyl, Caer - llwybr Prestatyn/Llandudno. Bws 250 llath/220 metr Gwasanaethau 35/36 y Rhyl - Rhuddlan/ Prestatyn, a gwasanaeth 51, Dinbych - y Rhyl.