Drysau Agored - Abaty Ystrad Fflur
Roedd mynachod Sistersaidd y canol oesoedd yn entrepreneuriaid go iawn. Er iddynt geisio llefydd gwyllt ac unig i arfer eu crefydd, fel datblygwyr brwd, gwnaethant fanteisio ar y lleoliad gwledig hwn ger Tregaron i gasglu llawer o dir. Roedd angen y lle arnynt i ffermio miloedd o ddefaid a oedd yn ffynhonnell incwm iddynt. Adeiladwyd ffyrdd a phontydd ganddynt hefyd a lwyddodd i ddenu pererinion a masnachwyr i'r abaty. Cam doeth iawn.
Yn gyflym, daeth Ystrad Fflur nid yn unig yn safle crefyddol o bwys mawr yng Nghymru ond hefyd yn gartref naturiol i ddiwylliant Cymreig. Mae Dafydd ap Gwilym, un o feirdd mwyaf adnabyddus y canol oesoedd yng Nghymru, wedi'i gladdu yma o dan ywen.
Bellach yn adfail, mae mawredd y porth gorllewinol mawr cerfiedig yn dystiolaeth o'i statws blaenorol. Gellir gweld cynllun yr eglwys yn eglur o hyd ac, yn rhyfeddol, mae rhai o'r teils addurnedig gwreiddiol o'r abaty wedi goroesi. Mae un ohonynt, 'Dyn â'r Drych', yn dangos gŵr bonheddig o'r canol oesoedd yn edmygu ei hun mewn drych!
Cyfarwyddiadau - Ffordd: Isffyrdd o Bontrhydfendigaid, gellir ei gyrraedd o'r B4340; Rheilffordd: Aberystwyth 12 milltir/20km lein Amwythig - Aberystwyth. Beic: NCN Llwybr 82 (2 filltir/4km).