Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Mae Gwaith Haearn Abaty Nedd wedi’i leoli yng Nghwmfelin, crud diwydiant sydd â gwreiddiau yng nghyfnod tywysogion Cymru cyn y Goncwest Normanaidd. 

Fodd bynnag, daeth Abaty Nedd yn enwog yn sgil y gwaith haearn, gyda’i beiriannau stêm, llongau, locomotifau a gweithfeydd nwy byd-enwog yn gyrru’r Chwyldro Diwydiannol ledled y byd. Yr ardal hon a gyfrannodd at Gymru’n dod y genedl ddiwydiannol gyntaf yn y byd.

Mae ei 8,000 o gynlluniau peirianneg yng Nghofrestr Cof y Byd UNESCO. 

Ffwrnesi chwyth y safle yw rhai o’r enghreifftiau gwaith maen mwyaf a adeiladwyd.

Bydd taith dywys a sgwrs am 2pm. 

Cyfeillion Cwmni Haearn Abaty Nedd sy’n cynnal y digwyddiad Drysau Agored, a bydd te a choffi, cacennau a byrbrydau yn cael eu gweini gyda ffwrn pitsa. Er bod y daith dywys a’r sgwrs am 2pm, bydd aelodau o’r Cyfeillion ar gael i siarad am y safle drwy’r dydd, a byddant hefyd yn gallu dangos bwthyn y gweithiwr haearn a ddatgelwyd yn ddiweddar. Bydd stondinau yn gwerthu cofroddion hefyd.

Nid oes angen archebu lle.

Cyfeiriad – Gwaith Haearn Mynachlog Nedd, New Road, Mynachlog Nedd, Castell-nedd, SA10 7NH.
https://w3w.co/former.themes.juror
SS 73811 97684

Gellir cyrraedd Gwaith Haearn Mynachlog Nedd o’r lôn sydd wrth ochr GMF Motor Factors, gyferbyn â’r Smith’s Arms ar New Road, Mynachlog Nedd, Castell-nedd, SA10 7NH ar yr A4230. 

Mae digon o leoedd i barcio am ddim yn yr ardal.

Mae safleoedd bws gerllaw.

Mae’r safle’n fflat, ond yn anwastad ac yn arw. Efallai y bydd anawsterau i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ond mae'n hygyrch.


Prisiau

Am Ddim