Drysau Agored - Taith Twys Castell Criccieth
Dewch ar daith gyda’r tywysydd Deian ap Rhisiart i gyfarfod cyfrinachau’r castell a adeiladwyd yn wreiddiol gan Llywelyn Fawr.
Dyma gastell fu’n newid dwylo yn aml rhwng y Cymry a’r Saeson a dychmygwch yn y canol oesoedd pa mor beryglus ac ansefydlog oedd y cyfnod wrth I ryfel fod yn gysgod parhaus ar y trigolion. Awn yn ol mewn hanes gan fentro i fyd y milwyr Cymreig a oedd ceisio cipio’r castell. Gwaed ac urddas, angerdd a mawredd, y cyfan yn amlwg yn hanes y drydedd ganrif ar ddeg. Camwch wedyn i eisgidiau cadfridion y chwedlonol Owain Glyn Dwr wrth iddynt gipio’r castell a’I losgi. Ar y daith, profwch y cyffro, y yr helynt a’r dinistr wrth I Glyn Dwr a’I ddynion ymladd ei gwrthryfel cenedlaethol. Awr o daith yn chwilota rhwng muriau trawiadol Castell Cricieth
Disgrifiad: Bydd y digwyddiad yn daith gerdded a fydd yn para 60 munud yn dechrau yn y ganolfan groeso ac yn cael ei arwain gan Deian ap Rhisiart rhwng muriau Castell Criccieth. Bydd yna gyfyngiadau symudedd mewn mannau ar y daith ond addas i'r teulu.
Teithiau am 11am (Saesneg), 1pm (Cymraeg) a 3pm (Saesneg).
Sut i ymweld yn ystod Drysau Agored:
- archebwch eich tocynnau am ddim ar-lein ymlaen llaw i warantu mynediad
- archebwch docynnau am ddim ar gyfer pob aelod o’ch grŵp (gan gynnwys plant)
- dewch â’ch gorchudd wyneb, i’w wisgo ym mhob man dan do.