Drysau Agored - Castell Cas-gwent
Ymunwch â thaith gyda'n harweinydd arbenigol.
Mynnwch gael rhagor o wybodaeth am hanes a phensaerniaeth ddiddorol y castell a cherddwch o'i amgylch er mwyn dysgu rhagor am yr heneb hon sydd wedi'i gadw'n wych.
Mae safle cyfan castell Cas-gwent yn wers mewn hirhoedledd. O tua 1067 i 1690, newidiodd ymddangosiad y castell drwy'r cyfnod i gyd-fynd â'r bensaerniaeth filwrol ddiweddaraf.
Dros y canrifoedd, parhaodd y castell i dyfu ar hyd crib gul y clogwyn. Yr adeilad hynaf yw'r tŵr mawr Normanaidd ond parhaodd y gwaith adeiladu ymhell i mewn i'r 17eg ganrif wrth i furfylchau canoloesol gael eu disodli gan ragfuriau cryfach ar gyfer tanio mysgedi. Roedd bwa a saeth yn perthyn i'r oes a fu!
Teithiau tywys am 11am, 1pm a 3pm.