Drysau Agored - Llys a Chastell Tretŵr
Ymunwch â thaith gyda cheidwad Llys a Chastell Tretŵr. Darganfod rhagor o wybodaeth am ei hanes a'i bensaerniaeth ddiddorol a cherddwch o'i amgylch er mwyn gwerthfawrogi ei leoliad prydferth.
Am dros 900 o flynyddoedd mae Llys a Chastell Tretŵr wedi'i altro, ei addasu a'i ddiwygio. Gwnaed llawer o'r gwaith hwn i gyd-fynd â steil, ffasiwn a chwaeth y cyfnod.
Roedd y teuluoedd Picard a Vaughan a fu'n byw yma yn deuluoedd cyfoethog a dylanwadol yng Nghymru yn y cyfnod. Roedd angen lle arnynt i greu argraff. Roedd y llety moethus a grewyd ganddynt yn adlewyrchu eu statws pwysig fel bonedd Cymreig.
Pan adawodd teulu Vaughan yn y 18fed ganrif, daeth Llys Tretŵr yn fferm weithiol a newidiodd o fod yn gartref i foneddigion a boneddigesau i fod yn gartref i ŵyn a gwyddau!
Nawr, yn yr 21ain ganrif, rydym wedi ail-greu cyfres o ystafelloedd fel y byddent wedi ymddangos yn 1470 pan oedd y teulu Vaughan ymysg bonedd Cymru. Cewch weld ffordd soffistigedig o fyw: o ddodrefn wedi'u cerfio'n gain i lestri a sosbenni cegin weithiol. Cewch weld bywyd yn y 15fed ganrif ar ei orau.
Teithiau tywys am 11.00am a 2.00pm.
Cyfarwyddiadau — Arwyddion ym mhentref Tre-tŵr, oddi ar yr A479 3 milltir/5 km i'r gogledd-orllewin o Grucywel, Powys.