Skip to main content

Tredegar yn agor ei ddrws bychan. (Yn wir, mae’n ddigon posibl mai dyma un o’r drysau lleiaf i agor yng Nghymru eleni) a hynny ddydd Sadwrn 7 Medi 2024. Bydd agoriad blynyddol Cloc y Dref yn digwydd rhwng 10am a 12pm. 

Mae’r Cloc wedi’i leoli yn Y Cylch, Tredegar NP22 3PS. Fe’i hadeiladwyd yn 1858 o ganlyniad i fasâr a gynhaliwyd gan Mary Elizabeth Davies, gwraig rheolwr Gweithfeydd Haearn Tredegar, Mr R.P. Davis, a oedd yn byw yn Nhŷ Bedwellty ar y pryd. 

Yn 72 troedfedd o daldra, ac wedi’i adeiladu o haearn bwrw, dyma’r cloc haearn annibynnol talaf yn y DU. Mae’r cloc yn sefyll fel cawr yn y Cylch ac mae wedi bod yn fan ymgynnull ar gyfer dathliadau byth ers iddo gael ei adeiladu.

Mae digwyddiadau Drysau Agored yn rhoi cyfle i bawb archwilio adeiladau a safleoedd hanesyddol yn rhad ac am ddim, yn enwedig y rhai nad ydynt fel arfer ar agor i’r cyhoedd. Ac mae Cyngor Tref Tredegar yn falch iawn o agor drws Cloc y Dref, Tredegar, ar gyfer y digwyddiad blynyddol hwn. Fel rhan o ddathliadau Drysau Agored, bydd pob ymwelydd yn derbyn tystysgrif ar ôl mynd i mewn i Gloc y Tŵr a dewis dringo’r ysgolion y tu mewn. Dylid bod â lefel gymedrol o symudedd a dylid hefyd wisgo esgidiau/dillad priodol. 

Cyfeiriad - Cloc Tref Tredegar, The Circle, Tredegar, NP22 3PS.
SO10NW
SO1416008840

Cyfarwyddiadau – ewch tua’r gorllewin ar ar A465, cymrwch y fynedfa allan tuag at A4048, arhoswch ar yr A4048 tan cyrraedd Y Promenade D'Orvault / B4256, cariwch ymlaen i ddilyn B4256 tan cyrraedd The Circle.

Rydym yn argymell i chi barcio yn y maes parcio cyhoeddus sydd ger yr orsaf fysiau y tu ôl i Commercial Street, ond mae ychydig o fannau parcio y tu ôl Coronation Street hefyd, sydd o fewn 3 munud o gerdded.

Trafnidiaeth gyhoeddus, bws X4 o’r Fenni a/neu Merthyr Tudful.  http://www.traveline-cymru.info/ 

Mae'r Cylch o fewn 5 munud o gerdded o'r orsaf fysiau sydd ar ben Commercial Street, Tredegar. Mae bysiau'n stopio ar y Cylch hefyd, gan ddibynnu ar ba lwybr maen nhw arno.

Mynediad trwy grisiau ac ysgolion ac felly mae ymwelwyr yn rhaid i ni gael symudedd da ac yn cael eu gwisgo'n addas.

Dim angen archebu lle.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 07 Medi 2024
10:00 - 12:00