Drysau Agored - Eglwys Sant Tudno, Llandudno
Wedi’i lleoli ar lethr gwyntog y Gogarth, ac yn edrych dros y môr, mae eglwys hynafol Sant Tudno yn lle am bererindod, llonyddwch a gweddi. Sefydlwyd yr eglwys gan Sant Tudno yn y 6ed ganrif, gan roi ei henw i dref Llandudno ei hun. Mae’r adeilad presennol yn dyddio o’r 12fed – 15fed ganrif.
Ymhlith nodweddion yr eglwys mae bedyddfaen o’r 12fed ganrif, cloriau bedd o’r 14eg ganrif a cherfiadau o’r 15fed ganrif, tra bod gwydr lliw o oes Fictoria/dechrau’r 20fed ganrif yn cynnwys rhai enghreifftiau gwych o waith y gwneuthurwyr. Mae’r fynwent yn cynnwys llawer o feddau diddorol ac fe’i rheolir i annog bywyd gwyllt.
Mae'r eglwys yn fan addoli gweithgar iawn, ac mae croeso cynnes i ymwelwyr ymuno â'r gwasanaethau awyr agored am 12.30pm ar ddydd Sul. Bob prynhawn Sul, bydd Cyfeillion Eglwys Sant Tudno yn cynnig lluniaeth a byddant ar gael drwy'r prynhawn i siarad am yr eglwys a'r fynwent.
Cyfeiriad – Eglwys Sant Tudno, Heol Sant Tudno, Y Gogarth, Llandudno, Conwy.
Cod post agosaf: LL30 2XE.
Cyfeirnod grid: SH 769838
Mae dau lwybr i yrru neu feicio i Eglwys Sant Tudno, y ddau â rhiwiau serth.
Llwybr 1 – Ar ben Stryd Mostyn Uchaf, croeswch draw i Heol Tŷ Gwyn ger Gwesty’r Empire. Ewch ymlaen i fyny Heol Tŷ Gwyn, yn syth ar draws y goleuadau traffig, i Orsaf Hanner Ffordd y Dram. Ychydig y tu hwnt i’r Orsaf Hanner Ffordd, trowch i’r dde i mewn i Heol Sant Tudno. Ewch yn eich blaen ar Heol Sant Tudno. (NB. Bydd Mynwent Capel y Gogarth i’w gweld o flaen Eglwys Sant Tudno).
Llwybr 2 – o’r gylchfan ar Rodfa’r Gogledd, cymerwch Ffordd y Cwm Hapus i’r Tollborth a Rhodfa’r Môr. Ewch o amgylch Rhodfa’r Môr heibio’r pentir cyntaf ac mae’r ffordd i Sant Tudno ar y chwith. (NB mae Rhodfa’r Môr yn unffordd ac mae yna doll am yrru ar y ffordd).
Mae’r bws Rhif 26 o Landudno yn aros yng Ngorsaf Hanner Ffordd y Tram a Chopa’r Gogarth, lle ceir teithiau cerdded i lawr allt i’r eglwys.
Does dim angen archebu lle.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Maw 01 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Mer 02 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Iau 03 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Gwen 04 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Sad 05 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Sul 06 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Llun 07 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Maw 08 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Mer 09 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Iau 10 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Gwen 11 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Sad 12 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Sul 13 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Llun 14 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Maw 15 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Mer 16 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Iau 17 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Gwen 18 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Sad 19 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Sul 20 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Llun 21 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Maw 22 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Mer 23 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Iau 24 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Gwen 25 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Sad 26 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Sul 27 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Llun 28 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Maw 29 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Mer 30 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|