Drysau Agored - Eglwys Santes Edwen, Llanedwen
O gyrraedd man a enwir yn lleol yn ‘Ffingar’, sy’n sefyll ar groesffordd rhyw hanner milltir i lawr yr A4080 o Blas Newydd ac i gyfeiriad Brynsiencyn, trowch i’r chwith i gyfeiriad Plas Coch a Moel-y-Don lle bu brwydr enwog a gwaedlyd rhwng gwŷr Brenin Edward I a rhai Tywysog Cymru, Llywelyn ein Llyw Olaf, yn 1282.
Su ceir o gyfeiriad y lôn bost, yn hytrach nag unrhyw ymladd ffyrnig, yw’r unig beth all darfu ar eich heddwch bellach wrth ichi ddilyn y ffordd ond buan iawn y gadewch hynny ar eich ôl a chyn bo hir daw adeilad gosgeiddig Eglwys y Santes Edwen i’r golwg ar eich chwith. Saif mewn lleoliad trawiadol ar lan y Fenai gan edrych allan ar Y Felinheli a mynyddoedd Eryri ar y tir mawr.
Sefydlwyd yr addoldy cyntaf ar y safle yma gan Santes Edwen yn 640 ond codwyd yr adeilad presennol yn 1856 a’i gynllunio gan Henry Kennedy, pensaer Esgobaeth Bangor ar y pryd. Saif ar dir sy’n rhan o stad Plas Newydd, cartref teulu Ardalydd Môn ers 1812 ac sydd bellach yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae’r eglwys yn adeilad rhestredig Gradd II ac ymhlith sawl elfen hynod amdani yw’r ffaith ei bod yn un o’r ychydig eglwysi yng Nghymru sy’n dal i gael ei goleuo’n gyfan gwbl gan ganhwyllau.
Cyfeiriad - Eglwys Santes Edwen, Llanedwen, Ynys Môn, LL61 6EZ. SH 517 684
Mae’r Eglwys wedi ei lleoli tua milltir oddi ar y A4080 tua 2 filltir o Lanfairpwllgwyngyll.
Ramp ar gael i ddefnyddwyr cadair olwyn.
Bydd yr Eglwys ar agor gyda stiwardiad wrth law Dydd Sul Medi 28 rhwng 11 yb a 4 yp.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sul 28 Medi 2025 |
08:00 - 20:00
|