Drysau Agored - Eglwys St. Gredifael, Penmynydd
Saif Eglwys Gredifael ychydig oddi ar y ffordd gefn rhwng pentrefi Rhoscefnhir a Phenmynydd mewn llecyn tawel.Sant o’r chweched ganrif oedd Credifael, a mab i Ithel Hael yn ôl un traddodiad, a dreuliodd gyfnod yn Hendy-gwyn-ar-Daf, canolfan eglwysig yn ne-orllewin Cymru. Yn ôl yr hanesydd lleol, y diweddar R. Cyril Hughes, roedd yn gefnder i Tygái. Ei unig sefydliad yw’r eglwys ym Mhenmynydd ac mae’n debyg mai’r enw blaenorol ar y pentref oedd Llangredifael.
Credir fod yr adeilad presennol yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar ddeg er bod olion eglwys flaenorol o’r 12fed ganrif yn ei seiliau. Ychwanegwyd y portsh yn y bymthegfed ganrif. Yn 1536 codwyd capel bychan ar ochr ogleddol yr eglwys ac yn y fan honno gallwch weld beddfaen mawr alabastr, sef bedd Goronwy Fychan, cefnder cyfan i Owain Glyndŵr, a’i wraig Myfanwy. Mae delwau llawn maint o’r ddau ar ben y gist. Bu Goronwy yn Stiward Tiroedd Esgobaeth Bangor ar gyfnod.
Roedd Goronwy hefyd yn hen-ewythr i Owain Tudur, disgynnydd teuluoedd diweddarach y Tuduriaid ym Môn. Bu cysylltiad agos iawn rhwng yr eglwys a’r Tuduriaid. Mae Rhosyn Tuduraidd i’w gweld yn ffenest liw fechan y capel a phaentiwyd nenfwd pren y gangell yn lliwiau’r Tuduriaid Brenhinol, sef coch, gwyrdd a gwyn.
Dim ond yn achlysurol y cynhelir gwasanaethau yn yr eglwys.
Cyfeiriad - Eglwys St. Gredifael, Penmynydd, LL61 5BX, Ynys Môn. SH 517749
Mae’r Eglwys wedi ei lleoli tua milltir oddi ar y B5420 – y ffordd o Borthaethwy I Langefni.
Does dim mynediad i gadair olwyn.
Llun© Warren Kovach gwefan:
https://www.angleseyhistory.co.uk/places/penmynydd/index.html
Bydd yr Eglwys ar agor gyda stiwardiad wrth law Dydd Sul Medi 28 rhwng 11 yb a 4 yp.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sul 28 Medi 2025 |
11:00 - 16:00
|