Skip to main content

Cipolwg ar dref farchnad wedi’i Rhufeinio

Hwyrach mai ei lleoliad cysglyd yn y gororau gwledig diarffordd yw’r rheswm pam mai Caer-went, Venta Silurum i’r Rhufeiniaid, yw un o’r cyfrinachau hynny a gadwyd orau. Heb os, mae Caerllion (Isca) gerllaw, un o drefi Rhufeinig pwysicaf Prydain, wedi dwyn ei chlodydd. Roedd Caer-went, a sefydlwyd tua 75-80 OC, yn anheddiad i’r Silwriaid, llwyth brodorol a gafodd ei Rufeinio yn dilyn goresgyniad Prydain.

Roedd yn lle prysur ynghyd â baddondai cyhoeddus, ar wasgar mewn grid Rhufeinig trefnus nodweddiadol. Mae’r olion trawiadol yn cynnwys waliau sy’n dal i sefyll hyd at 17 troedfedd / 5m, tai wedi’u datgloddio, ynghyd â marchnadfa a theml Brythonaidd-Rufeinig.

Ymunwch â thaith o gwmpas Tref Rufeinig Caer-went yng nghwmni ein harbenigwr ar y Rhufeiniaid.

Teithiau am 11am a 1pm.


Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 21 Medi 2024
11:00 - 14:00