Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Mae ysbryd y Nadolig yn fyw ac yn iach yn safleoedd Cadw y mis Rhagfyr hwn, gydag amrywiaeth eithriadol o bethau i’w gwneud ac anrhegion i’w prynu dros yr ŵyl.

Dyma 8 peth na ddylech chi eu colli gyda Cadw dros Nadolig 2019…

1. Sglefrio iâ yng nghastell mwyaf Cymru

O 6 Rhagfyr tan 6 Ionawr, bydd Castell Caerffili’n cael ei weddnewid yn wlad o hud a lledrith y Nadolig, lle gall ymwelwyr fwynhau sglefrio iâ awyr agored ar lawr iâ go iawn, blasu danteithion o gaffi dros dro a chymryd rhan mewn gweithgareddau tymhorol eraill.

Archebwch Nawr

2. Ymweld â Siôn Corn yn un o safleoedd Cadw

Dewch i weld Siôn Corn yng Ngwaith Haearn Blaenafon y Nadolig hwn – a chreu atgofion unigryw i’r teulu cyfan! Sesiynau Cymraeg a Saesneg ar gael.

Gwaith Haearn Blaenafon Groto Siôn Corn — Castell Cas-gwent Dewch i weld Siôn Corn!

 


3. Digwyddiadau Nadolig yn henebion Cadw

Dathlu’r Nadolig ym Mhlas Mawr, Straeon Nadolig ym Maddonau Caerllion, Nadolig Canoloesol yng Nghastell Cas-gwent a Ffair Nadolig Llys a Chastell Tretŵr – dim ond rhai o’r digwyddiadau tymhorol gwych yn safleoedd Cadw y mis Rhagfyr hwn. Ewch i ddewislen ein digwyddiadau i weld rhagor o wybodaeth a hyd yn oed mwy o ddigwyddiadau.

Dod o hyd i ddigwyddiad Cadw

 

4. Nwyddau Frozen i’w prrrynu yn siopau Cadw

Ydych chi eisiau creu dyn eira? Neu brynu un, efallai? Mae ein dewis o nifer cyfyngedig o gymeriadau Frozen ar gael yng Ngastell Coch, Castell Caerffili, Castell Rhaglan, Castell Harlech a Chastell Conwy. Dewiswch o Olaf, Elsa, Anna, Sven, Kristoff neu Samantha (o’r gorau, nid Samantha efallai).

 

5. Prynu addurn arbennig

Ymwelwch â Chastell Rhaglan neu Gastell Conwy i brynu un o’n haddurniadau arbennig prydferth, yr ychwanegiad perffaith at unrhyw goeden Nadolig.

 

6. Darganfyddwch ein dewis Nadolig newydd

Ynghyd ag addurniadau lleol gwerth chweil a chast Frozen, mae siopau Cadw yn awr yn llawn o anrhegion tymhorol newydd, gan gynnwys eitemau lleol a rhai unigryw. Mae ein dewis newydd bellach ar gael yng Ngwaith Haearn Blaenafon, Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion, Castell Caerffili, Castell Coch, Castell Cas-gwent, Castell Conwy, Castell Dinbych, Castell Harlech, Castell Cydweli, Plas Mawr, Castell Rhaglan, Abaty Tyndyrn a Llys a Chastell Tretŵr.

 

7. Prynu aelodaeth Cadw yn rhodd

Prynwch aelodaeth Cadw i rywun arbennig a rhowch antur yn rhodd iddynt yn 2020. Gan ddechrau ar £38, gallai eich anwyliaid fynd ar ymweliadau di-ri i henebion Cadw ledled Cymru a chael mynediad am bris gostyngedig i henebion hanesyddol ar draws Lloegr a’r Alban hefyd.

 

8. Pam na chewch chi rywbeth bach i’ch hun hefyd?

Wrth siopa am yr anrheg Nadolig berffaith, pam na chewch chi rywbeth i’ch hun hefyd? Mae ein canolfannau ymwelwyr yn llawn dop o bethau gwerth chweil, gan gynnwys cynhyrchion Llechi Cymreig, gemwaith dylunydd, llyfrau ar gyfer pob oedran, bwyd a diod lleol a thymhorol, a blancedi Tweedmill hyfryd. Neu beth am brynu aelodaeth Cadw i’ch hun, a dechrau ar flwyddyn o antur yn 2020!