Drysau Agored - Capel Peniel, Tremadog
Mae'r capel rhestredig Gradd I hwn yn un o ddim ond pum capel anghydffurfiol rhestredig gradd I yng Nghymru. Cafodd ei adfer gan Addoldai Cymru a’r elusen sydd yn cynnal yr adeilad heddiw.
Ar gyfer Drysau Agored, bydd ymddiriedolwr yn bresennol i roi gwybodaeth am hanes y capel ac i ddangos pobl o gwmpas y safle. Bydd taflenni hefyd yn cael eu darparu.
Cyfeiriad - Capel Peniel, Stryd yr Eglwys, Tremadog, Gwynedd, LL49 9PS.
Cyfarwyddiadau - p'un a ydych yn teithio o'r de neu’r gogledd, ewch i'r gylchfan ym mhen gogleddol ffordd osgoi Porthmadog. Wrth y gylchfan hon, dilynwch yr arwydd i Dremadog. Ar ôl ychydig gannoedd o lathenni, bydd y capel i'w weld ar y chwith. Mae maes parcio mawr, gwastad o flaen y capel. Mae gan y brif fynedfa ym mlaen y capel rai grisiau isel - fodd bynnag, mae modd mynd i mewn hefyd trwy ddrws y festri yn y cefn, sydd heb unrhyw risiau nac incleiniau.
Nid oes angen archebu ymlaen llaw.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 13 Medi 2025 |
11:00 - 15:00
|