Drysau Agored - Gerddi Castell Picton
Mae Castell Picton yn gadarnle trawiadol o'r 14eg ganrif yng nghanol Sir Benfro. Gyda thros 700 mlynedd o hanes cyfoethog, mae'r castell mewn 50 erw o erddi a choetir hudolus. Rydym yn un o Erddi Partner y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol, ac yn cynnig cymysgedd ysbrydoledig o harddwch naturiol ac ysblander hanesyddol. Gall ymwelwyr grwydro ystafelloedd hyfryd y castell, dysgu am ei gasgliadau rhyfeddol, a chanfod y straeon sydd wedi siapio ei orffennol.
Bydd mynediad i'r castell a'r gerddi yn rhad ac am ddim, a bydd llwybrau arbennig i blant. Bydd y gerddi ar agor rhwng 10am–5pm. Bydd y castell ar agor rhwng 1.30pm–4.30pm. Hefyd, bydd teithiau tywys 30 munud o hyd ar gael yn rhad ac am ddim am 2pm, 2.30pm, 3pm, a 3.30pm. Rhaid archebu eich lle ar y rhain ar y diwrnod a dim ond 20 o bobl gaiff fynd ar bob taith.
Gerddi Castell Picton, Y Rhos, Hwlffordd, Sir Benfro SA62 4AS what3words: dolly.solids.scooped
Rydym tua 3 milltir i'r dwyrain o Hwlffordd. Dilynwch yr arwyddion twristiaeth brown i Erddi Castell Picton oddi ar yr A40. Mae’r rhain yn lonydd cul gyda lleoedd i geir basio. Trafnidiaeth gyhoeddus. Bws 322 neu 381 yw’r agosaf, o ddydd Llun ddydd Sadwrn. Rhaid gofyn am gael dod oddi ar y bws yn Slebech. Sylwch bod rhaid cerdded 2.6 milltir i gyrraedd Gerddi Castell Picton, a hynny ar hyd yr A40 lle nad oes palmentydd.
Prisiau
Categori | Price | |
---|---|---|
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 13 Med 2025 |
10:00 - 17:00
|
Sul 14 Med 2025 |
10:00 - 17:00
|