Skip to main content

Adeiladwyd yr eglwys hanesyddol hon o’r 14eg ganrif ar safle’r betws (tŷ gweddi) gwreiddiol ar lannau afon Conwy ar ymyl pentref Betws-y-coed.

Ceir ynddi garreg goffa i Gruffydd ap Dafydd Goch, ŵyr Dafydd, brawd Llywelyn ap Gruffydd, tywysog brodorol olaf Cymru.

Mae hefyd yn cynnwys ffont Normanaidd, a dau banel pren bob ochr i’r allor sydd â Gweddi’r Arglwydd a Chredo’r Apostolion yn Gymraeg.

Credir i’r allor ddod o Ysgol Friars ym Mangor.

Ehangwyd yr eglwys yn 1843 pan symudwyd yr oriel yn y pen gorllewinol.

Bydd yr eglwys ar agor bob dydd drwy fis Medi (10am – 5pm)

Bydd yr Ŵyl Flodau flynyddol ddydd Gwener, Sadwrn a Sul 6, 7 a 8 Medi. Mae mynediad am ddim ond gwerthfawrogir rhoddion.

Os yw’r eglwys ynghau am unrhyw reswm, mae fel arfer allwedd ar gael o Amgueddfa Rheilffordd Dyffryn Conwy gerllaw.

Cyfeiriad – Hen Eglwys Sant Mihangel, Hen Ffordd yr Eglwys, Betws-y-Coed, LL24 0AL.

Cyfarwyddiadau – Trowch oddi ar ffordd yr A5 (Caergybi) ym mhentref Betws-y-coed gyferbyn â Phendyffryn Stores. Mae’r eglwys ar waelod y ffordd hon wrth ymyl Amgueddfa Rheilffordd Dyffryn Conwy, cwrs golff a pharc carafanau.

Nid yw’n hygyrch i gadeiriau olwyn oni bai bod stiward ar ddyletswydd.

Bydd stiwardiaid ar gael drwy gydol yr Ŵyl Flodau.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Iau 19 Medi 2024
10:00 - 17:00
Gwen 20 Medi 2024
10:00 - 17:00
Sad 21 Medi 2024
10:00 - 17:00
Sul 22 Medi 2024
10:00 - 17:00
Llun 23 Medi 2024
10:00 - 17:00
Maw 24 Medi 2024
10:00 - 17:00
Mer 25 Medi 2024
10:00 - 17:00
Iau 26 Medi 2024
10:00 - 17:00
Gwen 27 Medi 2024
10:00 - 17:00
Sad 28 Medi 2024
10:00 - 17:00
Sul 29 Medi 2024
10:00 - 17:00
Llun 30 Medi 2024
10:00 - 17:00