Skip to main content

Dyma gasgliad o bwysigrwydd cenedlaethol o 35,000 o gyfrolau hanesyddol, gan gynnwys wyth llawysgrif ganoloesol, a 69 o lyfrau a argraffwyd cyn 1500. Mae'r cyfleuster yn gartref i Gasgliadau Arbennig Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan - y sefydliad addysg uwch cyntaf yng Nghymru (a dim ond y trydydd yng Nghymru a Lloegr).

Ar gyfer Drysau Agored, bydd detholiad o'r eitemau mwyaf diddorol yn y casgliadau yn cael eu harddangos, gan gynnwys llawysgrif 1279 o'r Beibl Lladin, a oedd gynt yn perthyn i'r Esgob Thomas Burgess; dau lyfr oriau o'r bymthegfed ganrif; sawl cyfrol a argraffwyd cyn 1500, rhai ohonynt wedi'u darlunio â llaw; detholiad o atlasau cynnar; amrywiaeth o lyfrau byd natur o'r 16eg i'r 18fed ganrif, gan gynnwys argraffiad cyntaf hardd o British Zoology Thomas Pennant; a chymysgedd o gyfrolau o ddiddordeb Cymreig, gan gynnwys atlas Abraham Ortelius sy'n cynnwys y map printiedig cyntaf o Gymru. Bydd deunydd diddorol o archifau'r coleg hefyd yn cael ei arddangos.

Cyfeiriad – Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7ED.

Mae'r adeilad ynghlwm wrth adeilad y llyfrgell ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan. Mae bysiau rheolaidd o Aberystwyth, Caerfyrddin a Thregaron yn stopio ar y Stryd Fawr, Llanbedr Pont Steffan gyferbyn â'r Llew Du, o fewn pum munud o waith cerdded i'r llyfrgell.

Does dim angen archebu lle.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 28 Medi 2024
12:00 - 16:00