Skip to main content
Castell Caerffili
Wedi ei gyhoeddi

Mae Cymru’n gartref i nifer o wyliau cerdd, celf a llenyddiaeth bob haf – ac yn Awst eleni, bydd dathliad o dreftadaeth yn ymuno â’r rhaglen wrth i Cadw gyflwyno gŵyl hanes newydd i deuluoedd.  

Heddiw (15 Gorffennaf), cyhoeddir y bydd Gŵyl Hanes Plant yn cynnal cannoedd o ddigwyddiadau na ddylid eu colli, gweithgareddau ‘cŵl’ a phrofiadau addysgol yn 25 o safleoedd hanesyddol Cymru rhwng 01-15 Awst.  

Mae’r cyfan yn rhan o ymgyrch Ailddarganfod Hanes Cadw, sy’n tynnu sylw at dreftadaeth Cymru gan ddarparu ffyrdd newydd i bobl ifanc brofi cestyll, abatai a thai hanesyddol Cymru yn ystod 2019, sef Blwyddyn Darganfod Cymru.   

Mae’r digwyddiadau hyn wedi’u hanelu at blant rhwng 4-16 oed, a bydd yr ŵyl yn agor yn swyddogol yng Nghastell Caerffili ar Ddydd Iau, 01 a Dydd Gwener, 02 Awst — gan gynnig popeth o weithdai adeiladu cestyll Lego i ddarlithoedd ar hanes ffeministiaid.

Wedyn, bydd yr ŵyl yn parhau am fis gyda rhaglen brysur o ddigwyddiadau anhygoel i’r teulu mewn safleoedd hanesyddol ledled Cymru – gan gynnwys golygfeydd a seiniau’r Ail Ryfel Byd yng Ngwaith Haearn Blaenafon, gwersi saethyddiaeth o’r oesoedd canol yng Nghastell Caernarfon a golwg fanwl ar fywyd oes Fictoria yng nghastell hudol Cymru, Castell Coch.

Ac yn olaf, ar Ddydd Sadwrn, 24 Awst a Dydd Sul 25 Awst, bydd Gŵyl Hanes Plant Cadw yn cloi’n ffurfiol yn ystod Gŵyl Ganoloesol flynyddol Castell Biwmares, a fydd yn dathlu deng mlynedd lwyddiannus yn haf 2019 - gyda gorymdeithiau canoloesol, ymladd cleddyfau, cerddoriaeth draddodiadol ac adloniant gan glerwyr, cellweiriwyr a hyd yn oed dienyddiwr y Castell!

Ni fydd rhaid archebu ymlaen llaw, a bydd y tâl mynediad arferol yn ei le ymhob un o ddigwyddiadau Gŵyl Hanes Plant – gan gynnwys y seremonïau agor a chau mawreddog yng Nghestyll Caerffili a Biwmares.

Bydd gwesteion yn y digwyddiadau agor a chau hefyd yn derbyn band arddwrn arbennig Gŵyl Hanes Plant wrth iddynt gyrraedd (tra bydd stoc ar gael) a mynediad diderfyn i’r holl weithgareddau a gweithdai a gynigir ar y safle.

Bydd y penwythnos ‘Agoriad Mawreddog’ yng Nghastell Caerffili yn cynnig ystod eang o wahanol weithgareddau, profiadau a gweithdai i deuluoedd eu mwynhau dros y deuddydd cyntaf ym mis Awst, gan gynnwys: gwersi braslunio hanesyddol, gweithdai adeiladu cestyll Lego*, emporiwm o gemau canoloesol, adloniant canoloesol gan y cellweiriwr Fiery Jack, ysgol gleddyfau, peintio wynebau a pherfformiad cerddorol – a’r cyfan yn arddull y canoloesoedd.  


Bydd pabell celf a chrefft enfawr yn disgwyl yr ymwelwyr yng Nghaerffili hefyd, lle bydd cyfle i adeiladu castell cardbord anferth, cyfrannu at greu murlun anferth o ddraig a gwneud tarian, cleddyf neu goron eu hunain gyda gwastraff a ailgylchwyd.

Yn y cyfamser, bydd cyfle hefyd i ymwelwyr gymryd rhan mewn sesiynau adrodd stori rhyngweithiol gyda’r awdur plant, Mike Church, a gwrando ar sgwrs ysbrydoledig am fenywod yn hanes Cymru gydag Archaeolegydd Cadw, Erin Lloyd Jones — am 1pm yn Neuadd Fawr y Castell.  

Bydd yr holl weithgareddau ar gael yn ystod digwyddiad Castell Caerffili – ac eithrio’r gweithdai Lego a fydd ar gael ar sail y cyntaf i’r felin. Cynhelir dwy sesiwn bob dydd, y sesiwn gyntaf rhwng 11am a 12.30pm a’r ail rhwng 2pm a 3.30pm.

Bydd y digwyddiad olaf yng Nghastell Biwmares yn cynnig gweithgareddau â thema ganoloesol ac adloniant i’r teulu cyfan, gan gynnwys arddangosfeydd hanes byw o wersylloedd, ymladd cleddyfau, gweithdai cellweiriwr a sesiynau adeiladu cestyll Lego – bydd y gweithdai hyn ar sail y cyntaf i’r felin a chynhelir pedwar gweithdy awr yr un bob dydd, am 10.30am, 11.45am, 2pm a 3.15pm.

Yn y cyfamser, caiff ymwelwyr sy’n dod i ddathlu 10 mlynedd o Ŵyl Ganoloesol Castell Biwmares  ddarganfod sut le oedd y Castell yn ystod y Canoloesoedd, wrth i weithwyr lledr, nyddwyr a gofaint   arddangos eu medrau arbennig yn y pentref canoloesol o fewn muriau’r castell.   

Bydd arddangosfeydd adar ysglyfaethus, stondinau bwyd canoloesol, gweithdai celf a chrefft a gorymdaith dreigiau lliwgar hefyd ar gael i ddiddanu ymwelwyr yn ystod y dathliad deuddydd – a fydd yn dod i ben gyda thwrnamaint rhyfeddol rhwng marchogion canoloesol ffyrnig y Castell. Caiff ymwelwyr eu hannog i ddewis ochr a chefnogi’r ochr honno, a bydd gwahoddiad i’r ymwelwyr dewraf herio un o’r marchogion canoloesol mewn brwydr ryngweithiol.  

Dywedodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Ar ôl misoedd lawer o gynllunio a pharatoi, mae’n dda gennyf ddatgelu’r cynlluniau ar gyfer Gŵyl Hanes Plant gyntaf Cadw – a gynlluniwyd i ysgogi dychymyg haneswyr ifanc 4-16 oed a rhoi cyfleoedd i blant ddysgu sgiliau newydd yn safleoedd hanesyddol Cymru.  

“Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o ennyn diddordeb pobl ifanc yn hanes Cymru a dyna’n wir yw bwriad y Gŵyl Hanes Plant a fydd yn parhau am fis – gyda chymysgedd o weithgareddau hwyliog, anarferol ac addysgiadol i’r teulu cyfan eu mwynhau yn ystod gwyliau’r haf.  

“Edrychaf ymlaen at lansiad swyddogol yr ŵyl yng Nghastell Caerffili gan obeithio y bydd dulliau cyfoes yr ŵyl o gyflwyno addysg dreftadaeth yn ysbrydoli plant Cymru a thu hwnt i archwilio hanes a diwylliant unigryw Cymru am flynyddoedd i ddod.” 

Dilynwch @CadwWales neu @CadwCymru ar Twitter neu chwiliwch am Cadw ar Facebook.

Anogir ymwelwyr â safleoedd Cadw i rannu eu profiadau ar y cyfryngau cymdeithasol gan dagio Cadw a defnyddio’r hashnod #GwylHanesPlant.

Mae’n bosibl i ymwelwyr teulu fwynhau gostyngiad o 20% ar aelodaeth teulu Cadw hyd 19 Gorffennaf, gan ddefnyddio’r cod: HAF2019. Ewch i wefan Cadw am ragor o wybodaeth.  

 

Be' sy'n ymlaen

Gŵyl Hanes Plant: Gweithdy Plethu Helyg

Dydd Iau 01, 08, 15 a 22 Awst

Castell Oxwich

11am – 4pm

Codir tâl mynediad arferol i’r safle.

Mae gwahoddiad i ymwelwyr ymuno â’r artist preswyl, Sara Holden, yng Nghastell Oxwich i roi cynnig ar yr hen grefft o blethu helyg i greu eu coron eu hunain, daliwr breuddwydion neu fur atal gwynt ar gyfer yr ardd. Mae’r sesiynau galw heibio i’r teulu cyfan, a byddan nhw’n cael eu cynnal yn rheolaidd drwy’r dydd.


I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

Gŵyl Hanes Plant: Marchogion, Cellweirwyr, a Hudoliaeth Hyfryd!

Dydd Gwener 02, 09, 16, 23 Awst

Castell Conwy

10am – 4pm

Codir tâl mynediad arferol i’r safle.


Fis Awst yma, gall pobl sy’n ymweld â Chastell Conwy fwynhau diwrnod yn llawn hwyl a sbri a gemau i’r teulu cyfan fel rhan o Ŵyl Hanes Plant Cadw. 

Bydd pawb sy’n dod i’r digwyddiad yn siŵr o ddysgu sgil neu ddau, o roi cynnig ar saethyddiaeth a’r ysgol ymladd cleddyfau gyda marchogion canoloesol Harlech, i weithdai gwneud hudlath gyda dewiniaid preswyl. Hefyd, caiff y teuluoedd sy’n ymweld â’r safle adloniant a sbort gyda’r cellweiriwr.


I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

Gŵyl Hanes Plant: Darganfod Owain Glyndŵr

Dydd Sadwrn 03, 10, 17 Awst a dydd Sul 04, 11, 18 Awst

Castell Caernarfon, Castell Conwy, Castell Biwmares, Castell Cydweli, Castell Harlech, Castell Talacharn

Mae dyddiadau’r digwyddiad hwn yn amrywio yn ôl y lleoliad — ewch i’r wefan i gael rhagor o wybodaeth. 

10am – 2.30pm

Codir tâl mynediad arferol i’r safle, ond bydd angen trefnu i gadw lle.


Mae gwahoddiad i haneswyr ifanc, brwdfrydig ddod i Gastell Caernarfon i ddarganfod Tywysog Olaf Cymru drwy lygaid un o’i gefnogwyr ffyddlon.
Bydd y digwyddiad rhyngweithiol yn annog ymwelwyr i helpu i ddweud hanes Owain Glyndŵr wrth iddyn nhw gymryd rôl bardd proffesiynol. Bydd pedair sesiwn yn cael eu cynnal bob dydd. Mae’r sesiynau hyn ar gyfer y teulu cyfan. Lle i 30 yn unig sydd ymhob sesiwn, felly'r cyntaf i’r felin.


I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

Gŵyl Hanes Plant: Amddiffyn Blaenafon

Dydd Sadwrn, 03 Awst a dydd Sul, 04 Awst

Gwaith Haearn Blaenafon

11am – 4pm

Codir tâl mynediad arferol i’r safle.


Fis Awst yma, daw’r Ail Ryfel Byd i Weithfeydd Haearn Blaenafon, a bydd y safle hanesyddol yn llawn golygfeydd a seiniau’r 1940au yn ystod penwythnos cyntaf mis Awst. Bydd cyfle i weld arddangosfeydd gwefreiddiol o’r arfau, perfformiadau cerddorol a brwydrau’n cael eu hail-greu, a bydd y cyfan oll yn creu llun byw i’r ymwelwyr o fywyd y rheini a wynebodd y cyfnod cythryblus
hwn.
Caiff straeon go iawn am fywyd gartref eu hadrodd ger y tân yn Stack Square hefyd, a chaiff ymwelwyr gyfle i weld ac archwilio ysbyty milwrol symudol, ystafell radio, a detholiad o gerbydau milwrol o adeg y rhyfel.


I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

Gŵyl Hanes Plant: Ysgol Marchogion

Dydd Mawrth, 06, 13, a 20 Awst

Castell Harlech

9.30am – 4.30pm

Codir tâl mynediad arferol i’r safle.


Mae Castell Harlech yn chwilio am gatrawd newydd o farchogion canoloesol i warchod muriau’r castell mawreddog. Mae gwahoddiad i ymwelwyr dewr fynychu ysgol farchogion glodfawr Marchogion
Ardudwy yn y Castell am ddiwrnod o hyfforddiant brwydro, ymladd ac amddiffyn.


I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

 


Gŵyl Hanes Plant: Crefftau a Gemau Fictoraidd

Dydd Mawrth 06 Awst

Castell Coch

11am – 4pm

Codir tâl mynediad arferol i’r safle.

Mae Castell Coch yn croesawu ymwelwyr am ddiwrnod o gemau Fictoraidd a gweithgareddau crefft. Bydd cyfle hefyd i’r rheiny sy’n mynychu’r digwyddiad i wrando ar yr Arglwyddes Bute yn rhannu Chwedlau Esop yn yr ystafell ymlacio addurnedig.

 

Gŵyl Hanes Plant: Hebogyddiaeth Ganoloesol

Dydd Mercher 07 Awst

Castell Cricieth

11am – 4pm

Codir tâl mynediad arferol i’r safle.


Mae Castell Cricieth yn gwahodd ymwelwyr i fwynhau diwrnod cyffrous o arddangosfeydd heboga anhygoel uwch Bae Ceredigion. O gyfleoedd prin i dynnu lluniau gyda’r adar rhyfeddol, i straeon hudolus am y brenhinoedd a’r breninesau a oedd yn hoffi eu gwylio’n hedfan, bydd yr hebogwyr profiadol yn eich syfrdanu gyda diwrnod llawn dop o hanes a heboga.


I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

Gŵyl Hanes Plant: Hanes yn Fyw!

Dydd Mercher, 07 Awst a dydd Iau, 08 Awst

Castell Cilgerran

11am – 4pm

Codir tâl mynediad arferol i’r safle.

Bydd marchogion, crefftwyr, a Barwniaid y Deyrnas yn mynd â Chastell Cilgerran yn ôl i’r 12fed Ganrif, gan roi cyfle i’r ymwelwyr brofi bywyd fel yr oedd i’r bobl a oedd yn byw yno yn ystod yr Oesoedd Canol.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

Gŵyl Hanes Plant: Prynhawn Crefftus - Chwedlau’r Môr

Dydd Mercher 07 Awst

Abaty Ystrad Fflur

1pm – 4.30pm

Codir tâl mynediad arferol i’r safle.


Mae Abaty Ystrad Fflur yn gwahodd ymwelwyr i ymuno mewn gweithdai celf a chrefft yn ystod yr haf i ddathlu Chwedlau’r Môr.
Bydd pobl sy’n dod i’r gweithdai yn dysgu pam oedd y môr mor bwysig i’r Mynachod a oedd yn byw yn yr Abaty, ac yn cael cyfle i wneud gweithgareddau yn ymwneud â chrwbanod, coronau môr-forwyn, crefftau gyda chregyn, a llawer mwy.


I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

Gŵyl Hanes Plant: Diwrnod Creu Cleddyf Rhufeinig

Dydd Iau, 08 Awst

Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion

10am – 4pm

Codir tâl mynediad arferol i’r safle.

Yn ystod Gŵyl Hanes Plant, bydd ymwelwyr yn gallu ymuno â gweithdy crefft arfwisg Rufeinig yng Nghaer a Baddonau Rhufeinig Caerllion, a gwneud eu cleddyf eu hunain yn null y Rhufeiniaid.


I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

Gŵyl Hanes Plant: Penwythnos o’r Oesoedd Canol 

Dydd Sadwrn, 10 Awst a dydd Sul, 11 Awst

Castell Caerffili

10am – 5pm

Codir tâl mynediad arferol i’r safle.


Fis Awst yma, bydd penwythnos o gyffro’r canoloesoedd yng Nghastell Caerffili, diolch i grŵp Bowlore, sydd â chryn brofiad o ail-greu digwyddiadau.

Bydd y digwyddiad llawn hwn yn cynnig hwyl i’r teulu i gyd – o roi cynnig ar saethyddiaeth ac arddangosfeydd arfau i ysgol ymladd cleddyfau, perfformiadau hanes byw ac arddangosfeydd o arfau a fydd yn mynd â’ch gwynt.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

Gŵyl Hanes Plant: The Princes Retinue

Dydd Sadwrn, 10 Awst a dydd Sul, 11 Awst

Abaty Glyn y Groes

10am – 4pm

Codir tâl mynediad arferol i’r safle.

Am un penwythnos yn unig, bydd y Princes Retinue yn ymweld ag Abaty Glyn y Groes. Gan dywys ymwelwyr yn ôl mewn amser gydag amrywiaeth o berfformiadau ac arddangosfeydd hanes byw a chyffrous.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

Gŵyl Hanes Plant: Clwb Saethyddiaeth Red Dragon 

Dydd Sadwrn 10, 24 Awst a dydd Sul 25 Awst

Castell Caernarfon

11am – 3.30pm

Codir tâl mynediad arferol i’r safle.

Am un diwrnod yn unig, bydd Castell Caernarfon yn cael ei gludo yn ôl i’r Gymru ganoloesol, wrth i saethyddion ddod i'r gaer gadarn. Bydd ymwelwyr yn dysgu sut mae defnyddio bwa a saeth a sut mae amddiffyn y castell rhag ymosodiadau. Bydd cyfle hefyd i wrando ar hanesion gwefreiddiol o anturiaethau marchogion a gwylio gof saethau’n creu pen saeth ganol oesol. Bydd gwragedd teg y garsiwn wrth law i roi arddangosfeydd o fwyd a moddion llysieuol o’r canol oesoedd.

Codir £3 ychwanegol i roi cynnig ar y saethyddiaeth.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

Gŵyl Hanes Plant: Dreigiau!

Dydd Llun 12 Awst

Castell Cilgerran

10am – 5pm

Codir tâl mynediad arferol i’r safle.

Am un diwrnod yn unig, bydd Castell Cilgerran yn gartref i deulu o ddreigiau Cymru, a bydd llawer o hwyl i’r ymwelwyr gyda straeon a chrefftau, a hyd yn oed orymdaith dreigiau rhyngweithiol o amgylch y gaer ganoloesol.

Ni fydd dreigiau Cadw yn y digwyddiad hwn. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

Gŵyl Hanes Plant: Penwythnos Tuduraidd yn yr Abaty

Dydd Sadwrn, 17 Awst a dydd Sul, 18 Awst

Abaty Tyndyrn

10.30am – 5pm

Codir tâl mynediad arferol i’r safle.

Bydd The Tudor Group a Minstrels of the Forest yn diddanu ymwelwyr gyda cherddoriaeth canu, dawnsio a hanes byw rhyngweithiol yn Abaty Tyndyrn fis Awst yma — digwyddiad llawn dop i’r teulu felly peidiwch â’i golli.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

Gŵyl Hanes Plant: Dyddiau'r Dreigiau

Dydd Mercher 21 Awst a dydd Iau, 22 Awst

Castell Harlech

11am – 4pm

Codir tâl mynediad arferol i’r safle.

Mae gwahoddiad i ymwelwyr ymuno â Dreigiau Alcemi a Fflotsam y Ffŵl yng Nghastell Harlech yn ystod yr haf am antur fythgofiadwy i’r teulu.

Bydd pobl a ddaw i’r digwyddiad yn dod wyneb yn wyneb â dreigiau bychain, yn mwynhau gorymdaith dreigiau carnifal o amgylch y safle mawreddog ac yn cael cyfle i roi cynnig ar amrywiaeth eang o sgiliau syrcas gyda Fflotsam, Digrifwr y Castell.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

Gŵyl Hanes Plant: Ysgol Hyfforddi Marchogion

Dydd Iau 22 Awst

Castell Cricieth

11am – 3.45pm

Codir tâl mynediad arferol i’r safle.

Fis Awst yma, mae gwahoddiad i ymwelwyr ddod i Gastell Cricieth i gael hyfforddiant i fod yn farchog canoloesol llwyddiannus mewn brwydr. Bydd y rheini sy’n ddigon dewr i gwblhau’r cwrs yn cael tystysgrif arbennig sy’n profi eu gallu.

Bydd sesiynau addas i’r teulu cyfan yn cael eu cynnal bob 30 munud rhwng 11am a 3.45pm.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

Gŵyl Hanes Plant: Cyfarfod y Trigolion

Dydd Sadwrn, 24 Awst a dydd Sul, 25 Awst

Plas Mawr

11am – 4pm

Codir tâl mynediad arferol i’r safle.

Am un penwythnos yn unig, mae cyfle i ymwelwyr ddod wyneb yn wyneb â chymeriadau mewn gwisgoedd o’r oes a fu, a dysgu am deulu afradlon yr Wynniaid, cyn berchnogion Plas Mawr.

Bydd ymwelwyr yn cael cyfle hefyd i wneud marsipán ac ymuno mewn dawnsfeydd a gemau hanesyddol.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

Gŵyl Hanes Plant: Penwythnos Gŵyl Banc Canoloesol

Dydd Sadwrn 24 Awst , dydd Sul 25 Awst a dydd Llun 26 Awst

Castell Harlech

11am – 4pm

Codir tâl mynediad arferol i’r safle.


Fel rhan o Ŵyl Hanes Plant Cadw, caiff ymwelwyr gyfle i gamu’n ôl i’r gorffennol gyda marchogion Ardudwy yng Nghastell Harlech i weld sut fath o fywyd oedd byw mewn caer ganoloesol.

O roi cynnig ar saethu gyda bwa a saeth, i berfformiadau ymladd sy’n ddigon i fynd â’ch gwynt, arddangosfeydd adar ysglyfaethus a chyfle i weld arddangosfeydd arfau canoloesol, mae digon i’r teulu cyfan ei wneud yn y digwyddiad tri diwrnod hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.