Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Bydd nifer o gestyll, abatai a safleoedd hanesyddol eiconig Cymru’n dechrau ailagor eu drysau i ymwelwyr wythnos nesaf – ac mae Cadw wedi datgelu heddiw (01 Awst) y bydd modd archebu tocynnau mynediad i safleoedd ddydd Llun 3 Awst.

Mae’r cyhoeddiad yn dilyn newyddion diweddar y bydd 18 o blith 25 safle treftadaeth Cadw sydd wedi’u staffio’n ailagor fel rhan o gynllun gweithredu cam wrth gam dros yr haf eleni – er budd a mwynhad ymwelwyr â thocynnau’n unig, a fydd yn gallu ymweld â’r safleoedd am y tro cyntaf ers mis Mawrth.

Bydd modd cael mynediad i’r system archebu newydd ar wefan Cadw a bydd angen i aelodau Cadw ac ymwelwyr cyffredinol rag-archebu neu brynu tocynnau sy’n nodi amser penodedig, o leiaf 24 awr cyn iddyn nhw ymweld.

Bydd y broses o fynediad drwy docyn yn galluogi Cadw i reoli niferoedd ymwelwyr is yn eu henebion sy’n cael eu staffio – gan sicrhau y bydd ymwelwyr a gweithwyr fel ei gilydd yn cael profiad diogel a chadw at ganllawiau ymbellhau cymdeithasol. Atgyfnerthir y dull hwn o weithredu gan y bydd cyfyngu ar faint o amser y gellir ei dreulio yn y safle, gyda phob heneb yn cynnwys naill ai slot bore neu brynhawn i bob ymwelydd â thocyn.

Ymhlith newidiadau eraill bydd dyddiau gweithredu – i ddechrau bydd safleoedd treftadaeth Cadw sydd wedi’u staffio ar agor am bum niwrnod yr wythnos yn hytrach na saith. Yn ogystal, mae prisiau mynediad i bob safle wedi cael eu gostwng er mwyn adlewyrchu’r gostyngiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y TAW a godir am fynediad i atyniadau ymwelwyr. Bydd y gostyngiad llawn yn cael ei drosglwyddo i ymwelwyr er mwyn cefnogi economïau twristiaeth lleol.

Nodir y manylion hyn yn glir ar y llwyfan prynu tocynnau ar lein, a bydd pob tocyn yn benodol i un safle ac yn ddilys ar gyfer mynediad i’r heneb a ddetholwyd adeg prynu neu archebu lle yn unig. I gael mwy o wybodaeth, ewch i dudalen Cwestiynau Cyffredin Cadw yma.

Y cyntaf o’r safleoedd sydd wedi’u staffio fydd yn ailagor i ymwelwyr yn ystod wythnos gyntaf mis Awst (dydd Mawrth 04 Awst – dydd Sadwrn 08 Awst) fydd Plas Mawr, Gwaith Haearn Blaenafon ac wyth cadarnle arbennig arall, gan gynnwys cestyll Caerffili, Conwy, Rhaglan, Talacharn a Harlech.

Yn y cyfamser, â system unffordd newydd i sicrhau iechyd a diogelwch y cyhoedd, bydd Waliau Tref Conwy bellach yn ailagor ar ddydd Sadwrn 8 Awst – yr un pryd â’r castell ysblennydd, Castell Conwy.

Y nesaf i agor fydd Castell Caernarfon a Chastell Biwmares, a fydd ill dau’n ailagor ar ddydd Llun, 10 Awst, dyddiad sydd newydd ei gadarnhau, ac yna bydd Abaty Tyndyrn nawr yn ailagor yn ystod penwythnos 29–30 Awst.

Dim ond rhannau o safleoedd Castell Caernarfon ac Abaty Tyndyrn fydd ar agor oherwydd yr angen i wneud gwaith cadwraeth neu ddatblygu angenrheidiol. O ganlyniad, bydd mynediad i Gastell Caernarfon yn hanner pris, a bydd pris tocynnau i oedolion yn Nhyndyrn yn cael ei ostwng i £5 yn unig.

Mae Cadw hefyd yn gobeithio y gall ailagor Abaty Ystrad Fflur, Abaty Glyn-y-groes, Castell Cricieth a Chastell Cilgerran ynghynt na’r dyddiad ailagor arfaethedig presennol, sef y Pasg 2021.

Ar hyn o bryd, dim ond ar gyfer safleoedd sydd wedi’u staffio fydd yn barod i groesawu ymwelwyr ym mis Awst y bydd modd archebu slot ymweld, a bydd safleoedd pellach yn cael eu hychwanegu at y system docynnau wrth iddyn nhw ailagor.

Dim ond ar gyfer y nifer o bobl a gynhwysir yn eu pecyn aelodaeth y bydd aelodau’n gallu cael tocynnau am ddim, a bydd gofyn iddynt ddangos eu cerdyn aelodaeth pan gyrhaeddant, ynghyd â’r tocynnau a archebwyd a’r rhif archebu.

Yn yr un modd, rhaid i ymwelwyr cyffredinol archebu tocyn gyda dyddiad ac amser penodol ar gyfer pob person yn eu grŵp, gan gynnwys plant, o leiaf 24 awr cyn ymweld. I rai nad oes ganddynt fynediad i’r rhyngrwyd, bydd modd archebu neu neilltuo tocynnau dros y ffôn ar 03000 252 239.

Dylai ymwelwyr ddisgwyl sawl newid i’r safleoedd dan sylw, gan gynnwys gosod sgriniau plastig ar ddesgiau mynediad a saethau i ddangos cyfeiriad teithio, ynghyd â marcwyr cadw pellter ar hyd rhodfeydd, yn ogystal â llwybrau unffordd yn ôl y galw.

Bydd mesurau glanweithdra newydd yn cynnwys mwy o arferion glanhau ar draws pob safle sy’n cael ei staffio a ailagorir, gyda sesiynau glanhau trylwyr yn cael eu hamserlennu ochr yn ochr â’r diheintio dyddiol a wneir i bwyntiau cyffwrdd allweddol, fel dolenni drysau, rheilins a sgriniau rhyngweithiol.

Yn ogystal, bydd diheintiwr dwylo ar gael yn hawdd at ddefnydd ymwelwyr. I weld canllawiau ymweld llawn, ewch i wefan Cadw os gwelwch yn dda.

Meddai Dirprwy Weinidog Dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Wrth i ni ddechrau ailagor rhai o safleoedd treftadaeth Cymru sy’n cael eu staffio, ein prif flaenoriaeth o hyd fydd diogelwch ein gweithwyr, ein haelodau, ymwelwyr a chymunedau ehangach Cymru – ac rydym ni’n falch o’u croesawu’n ôl bob un.

“Er ein bod ni’n deall y gall fod rhyw gymaint o rwystredigaeth ynghlwm wrth orfod archebu tocynnau ymlaen llaw er mwyn ymweld â’r safleoedd eiconig hyn, mae proses docynnau newydd Cadw, ochr yn ochr â’r lleihad mewn niferoedd ymwelwyr, yn hanfodol er mwyn i ni allu rheoli’n llwyddiannus faint o bobl fydd yn ymweld â’r henebion hyn ar unrhyw un adeg.

“Bydd y broses newydd hon, gyda chymorth mesurau glanweithdra newydd ac mewn ambell achos, addasiadau i’r safle, yn caniatâu i bawb rannu profiad diogel a chadw at ganllawiau ymbellhau cymdeithasol. Rwyf wrth fy modd y bydd pobl Cymru a thu hwnt yn gallu archwilio hanes Cymru unwaith yn rhagor – a hoffwn atgoffa pawb i wneud hynny’n ddiogel a chyfrifol, gan ddangos parch.”

Bydd tocynnau ar gael i’w prynu neu’u harchebu ddydd Llun 03 Awst ar gyfer safleoedd treftadaeth Cadw sy’n cael eu staffio fydd yn ailagor, yma: bit.ly/tocynnau-mynediad-ir-safle.

I gael mwy o wybodaeth am amserlen arfaethedig ailagor safleoedd treftadaeth Cadw sy’n cael eu staffio, ewch i Ailagor ein safleoedd treftadaeth â staff yn raddol chwiliwch am Cadw ar Facebook neu dilynwch @CadwWales neu @CadwCymru ar Twitter.