Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Mynediad â thocyn i rai cestyll, abatai a gweithfeydd haearn o ddechrau mis Awst

Yn gynharach y mis hwn, llwyddodd Cadw i ailagor 43 o’i safleoedd henebion am ddim ac nad ydynt wedi’u staffio, a heddiw (18 Gorffennaf) mae’r gwasanaeth amgylchedd hanesyddol wedi datgelu cynllun ar gyfer ailagor yn raddol rai safleoedd dan ei ofal sydd wedi’u staffio, yn cynnwys rhai o atyniadau hanesyddol mwyaf eiconig Cymru.

Mae’r newyddion yn dilyn cyhoeddiad diweddar y Prif Weinidog y gall atyniadau dan do ar gyfer ymwelwyr yng Nghymru ailagor dan ganllawiau a rheoliadau cadw pellter cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Gyda system docynnau newydd i’w chael ar-lein, yr haf hwn mae Cadw yn bwriadu ailagor 18 o’i safleoedd treftadaeth sydd wedi’u staffio, gan ddechrau gyda Gwaith Haearn Blaenafon, Tŷ Elisabethaidd Plas Mawr yng Nghonwy, a chestyll Dinbych, Talacharn, Rhaglan, Harlech a Chaerffili – byddant yn agor yn ystod wythnos cyntaf Awst.

Castell Cas-gwent yn ne Cymru, yn ogystal â Safleoedd Treftadaeth y Byd cestyll Conwy a Biwmares yng ngogledd Cymru fydd y rhai nesaf i ailagor, gyda’r ceidwaid yn paratoi i groesawu ymwelwyr yno o fis Awst cynnar.

Mae Abaty Tyndyrn a Chastell Caernarfon hefyd yn bwriadu ailagor eu drysau i ymwelwyr yn ystod mis Awst, ond oherwydd gwaith buddsoddi cyfalaf sy’n cael ei wneud ar y ddau safle, ni ellir cadarnhau’r union ddyddiad eto. Bwriedir cwblhau’r gwaith hwn cyn gynted â phosibl.

Ar ôl i’r safleoedd ailagor, bydd yn ofynnol prynu tocynnau ymlaen llaw ar gyfer mynd ar y safleoedd, a gellir gwneud hyn ar wefan Cadw. Bydd yn rhaid i ymwelwyr cyffredinol brynu tocynnau ar gyfer amseroedd penodol, a bydd yn rhaid i aelodau Cadw a phartner sefydliadau neilltuo tocynnau ar gyfer amseroedd penodol cyn eu hymweliad. Hefyd, bydd yn rhaid i aelodau ddod â’u cardiau gyda nhw i brofi eu haelodaeth cyn y cânt fynd ar y safleoedd.

Bydd yr holl safleoedd sydd wedi’u staffio yn ailagor trwy gyfyngu ar nifer yr ymwelwyr. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl i Cadw reoli’n effeithiol nifer yr ymwelwyr ar unrhyw adeg, gan sicrhau profiad diogel, lle cedwir at bellter cymdeithasol, i’r staff a’r ymwelwyr fel ei gilydd. Bydd y safleoedd hefyd ond yn agor am bum diwrnod yr wythnos.

Yn y cyfamser, y gobaith yw y bydd Llys yr Esgob Tyddewi, Baddonau Rhufeinig Caerllion, Castell Coch, Castell Cricieth a Llys a Chastell Tretŵr yn ailagor eu drysau ym mis Medi, a gofynnir i ddeiliaid tocynnau ymweld â’r holl safleoedd trwy ymddwyn yn ddiogel, gyda pharch ac yn gyfrifol bob amser.

Ymhellach, er mwyn meithrin amgylchedd diogel, mae Cadw yn cyflwyno nifer o fesurau ar ei safleoedd henebion sydd wedi’u staffio, yn cynnwys gosod sgriniau partisiwn plastig wrth ddesgiau mynediad a rhoi saethau ac arwyddion cadw pellter 2m ar lwybrau cerdded, yn ogystal â chyflwyno systemau un ffordd ar rai o’i safleoedd henebion.

Hefyd, bydd mesurau hylendid newydd yn cynnwys glanhau mwy mynychu ar bob safle sydd wedi’i staffio. Ochr yn ochr â diheintio mannau cyffwrdd pwysig yn ddyddiol — yn cynnwys dolenni drysau, rheiliau a sgriniau rhyngweithiol — bydd gwaith glanhau trylwyr iawn yn cael ei wneud yn rheolaidd.

Bydd hylif diheintio dwylo ar gael yn hwylus i ymwelwyr ei ddefnyddio, a bydd yr aelodau hynny o staff Cadw sydd wedi’u hyfforddi mewn iechyd a diogelwch yn cael cyflenwadau PPE (Cyfarpar Diogelu Personol) dewisol, yn cynnwys masgiau wyneb a menyg untro.

Ymhellach, efallai y bydd rhai ystafelloedd, ardaloedd ac atyniadau penodol ar ambell safle ar gau dros dro i ymwelwyr.

Caiff aelodau ac ymwelwyr Cadw eu hannog i fwrw golwg ar sianeli cyfryngau cymdeithasol a gwefan Cadw yn ystod yr wythnosau nesaf i weld cyhoeddiadau pellach am ailagor safleoedd wedi’u staffio, yn cynnwys gwybodaeth am yr union ddyddiadau y bydd pob safle yn ailagor, yn ogystal â phryd bydd tocynnau yn mynd ar werth.

Medd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae pandemig y coronafeirws wedi bod yn her eithriadol i bawb sy’n gysylltiedig â’r diwydiant treftadaeth a thwristiaeth yng Nghymru, yn cynnwys Cadw.

“Felly, does dim rhaid dweud ein bod yn eithriadol o ddiolchgar i aelodau ac ymwelwyr Cadw am eu hamynedd a’u cefnogaeth dros y misoedd diwethaf.

“Wrth inni fynd ati’n raddol i gychwyn ailagor safleoedd wedi’u staffio o ddechrau mis Awst, ein prif flaenoriaeth yw diogelwch ein gweithwyr, ein haelodau, ein hymwelwyr a chymunedau ehangach Cymru — ac rydym yn falch o gael croesawu pob un o’r rhain yn ôl.

“Dyna pam mae ein system docynnau newydd a’r cyfyngiadau ar nifer ein hymwelwyr — ynghyd â’r mesurau hylendid newydd ac, mewn rhai amgylchiadau, y gwaith addasu a wnaed ar safleoedd — yn hanfodol o ran sicrhau profiad diogel, lle gellir cadw pellter cymdeithasol, i bob un ohonom.

“Deallwn y bydd yna beth rhwystredigaeth ynglŷn â’r ffaith fod rhai henebion arbennig yn dal i fod ar gau, ond gallwch fod yn dawel eich meddwl ein bod yn gweithio mor galed ag y gallwn i’w paratoi ar gyfer ailagor — a byddwn yn gwneud hynny pan allwn fod yn hyderus eu bod yn fannau diogel y gall pawb eu mwynhau.

“Yn olaf, ar ôl i safleoedd Cadw agor, gofynnwn i bawb sy’n dewis ymweld â nhw wneud hynny trwy ymddwyn yn ddiogel, yn gyfrifol a chyda pharch bob amser. Gyda’n gilydd, gallwn helpu i gadw ein safleoedd treftadaeth eiconig yn ddiogel a dilyn neges graidd Cymru, sef ‘Darganfod Cymru. Yn ddiogel.”

I gael mwy o wybodaeth am yr amserlen arfaethedig ar gyfer ailagor safleoedd treftadaeth Cadw sydd wedi’u staffio 

Cadw ar Facebook @CadwCymru ar Twitter