Taith mewn Gwisg – Diwrnod Owain Glyndŵr
Ymunwch â Myfanwy, dynes o’r Oesoedd Canol, ar y diwrnod arbennig hwn, am daith dywys o amgylch y castell a adeiladwyd gan y Tywysogion Cymreig.
Mae Myfanwy yn gymeriad ffuglennol, yn hen ffrind ac yn gefnogwr i’r cymeriad go iawn, Marred. Marred oedd gwraig gyntaf y gwrthryfelwr mawr o’r 15fed ganrif, Owain Glyndŵr. Gwrthryfelodd yn erbyn Brenin Lloegr, Harri IV, am ddeng mlynedd.
Gadewch i Myfanwy, yn ei gwisg ganoloesol, ddweud wrthych am hanes y gwrthryfelwr mwyaf annhebygol hwn, wrth eich tywys o amgylch un o’r safleoedd yr ymosododd arno ar draws y dŵr o’i bencadlys.
Profwch ei lwyddiannau a’i fethiannau wrth grwydro adfeilion Castell Cricieth, a chewch glywed gan y tywysydd Siân Roberts pam mae’n dal i fod yn enwog heddiw.
Teithiau tywys:
11am – Saesneg
1pm – Cymraeg
3pm – Saesneg
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sul 15 Medi 2024 |
11:00 - 16:00
|
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£7.50
|
Teulu* |
£24.00
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr |
£5.30
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£7.00
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein). |