Drysau Agored - Blocws y Gorllewin
Ceidwad Aberdaugleddau: Diwrnodau Agored Blocws y Gorllewin
Saif Blocws y Gorllewin (West Blockhouse) ar ochr ddeheuol Penrhyn Marloes, gan edrych draw ar olygfeydd godidog o arfordir Sir Benfro. Eleni, bydd yn agor ei ddrysau i’r cyhoedd am y tro cyntaf ers 2015.
Fel arfer, caiff ei osod fel llety gwyliau, ond dyma gyfle i chi ymweld â’r adeilad rhyfeddol hwn, sy’n eiddo i’r Landmark Trust, fel rhan o ŵyl Drysau Agored Cadw. Mae mynediad yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb. Bydd gwybodaeth ar gael am yr adeilad a'r gwaith a wnaed i’w adfer, yn ogystal â thaflenni gweithgareddau i’r plant.
Byddai’n well archebu lle ymlaen llaw ar Eventbrite, ond mae croeso i alw heibio ar y diwrnod - West Blockhouse Open Days (landmarktrust.org.uk)
Cyfeiriad – Blocws y Gorllewin/West Blockhouse, Hwlffordd, SA62 3RT.
Dilynwch yr arwyddion Diwrnod Agored ar y safle. Mae’r Blocws mewn lleoliad anghysbell, ar ben ffordd 1km o hyd.
Mae ychydig o leoedd parcio wrth ymyl yr adeilad i bobl sydd â phroblemau symudedd.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 14 Medi 2024 |
10:00 - 16:00
|
Sul 15 Medi 2024 |
10:00 - 16:00
|