Drysau Agored - Canolfan y Drindod, Caerdydd
Mae Canolfan y Drindod yn ganolfan groesawgar sy'n gwasanaethu pobl sy'n chwilio am loches a'r gymuned leol. Mae cyfartaledd o 200 o bobl yn dod trwy'r ganolfan bob wythnos. Ar sawl achlysur, yr adeilad yw'r lloches olaf i'r rhai sydd angen lloches, darpariaethau bwyd, pryd poeth neu i'r rhai sy'n edrych i wneud ffrindiau newydd.
Cyn-eglwys Fethodistaidd, mae'r adeilad wedi cael ei adnewyddu'n ddiweddar diolch i Arian Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Ymunwch â'r te a'r daith am ddim hon lle byddwch chi'n dysgu mwy am hanes yr hen Eglwys Fethodistaidd hon a'i thaith i ble mae heddiw fel canolfan gymunedol groesawgar. Mae cyfle hefyd i weld Arddangosfa'r Drindod a oedd i'w gweld yn Amgueddfa Caerdydd dros aeaf 2024 sy'n adrodd stori'r Drindod yng ngeiriau'r bobl a oedd yno.
I archebu lle am ddim, ewch i: https://trinityteatour.eventbrite.co.uk/ Am ddim gyda the a chacen.
Canolfan y Drindod Four Elms Road Piercefield Place Caerdydd CF24 1LE Mae mynediad gwastad o'r stryd i Ganolfan y Drindod. Mae lifft ar gael i gyrraedd y llawr uchaf.
Mae parcio ar y stryd gerllaw, gwiriwch yr arwyddion stryd am amodau parcio. Yr arosfannau bysiau agosaf yw Piercefield Place ac Elm Street lle gallwch deithio gan ddefnyddio rhifau 30, 44, 45, X3.
Prisiau
Categori | Price | |
---|---|---|
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 20 Med 2025 |
10:30 - 11:30
|