Skip to main content

Agorwyd drysau Ysbyty Dinbych ym 1807, fel fferyllfa yn wreiddiol, wedi ei leoli mewn adeilad ar Lôn y Nant (Llain y Ffatri). Hwn oedd y cyntaf o'i fath yng Ngogledd Cymru ac o bosib, Cymru gyfan. Erbyn 1811, caffaelwyd tir er mwyn adeiladu ysbyty newydd a enwyd yn Fferyllfa Gyffredinol a Seilam ar gyfer Adfer Iechyd Sir Ddinbych. Dros y blynyddoedd ychwanegwyd sawl estyniad er mwyn darparu gwelyau ychwanegol, golchdy a llety i gleifion twymyn. Ym 1957, agorwyd cartref nyrsys a chapel newydd. Mae Drysau Agored yn cynnig cyfle unigryw i ymwelwyr ddysgu mwy am yr ysbyty hanesyddol hwn.

Mae Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2024 yn lansio ar ddydd Gwener 20 Medi 2024 gyda darlith nos mewn daeareg yn Theatr Twm o'r Nant. Dros y ddau ddiwrnod sy’n dilyn, dydd Sadwrn a dydd Sul 21 a 22 Medi 2024 o 10am tan 5pm, bydd tua deg ar hugain o safleoedd hanesyddol bwysig lleol ar agor i'r cyhoedd, yn ogystal â gweithdai plant a theithiau tywys. Bydd gwasanaeth archebu ar gyfer y safleoedd/ gweithdai a'r teithiau tywys, yn cynnig nifer cyfyngedig o leoedd, ar gael drwy Lyfrgell Dinbych, yn agosach at ddechrau'r penwythnos.

Gellir cael gwybodaeth bellach ar http://www.visitdenbigh.co.uk/cymraeg/, https://twitter.com/OpenDoors_D

 a https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/

Ruthin Road, LL16 3ES
///what 3words:
(Eng) ///brick.heats.stitching
(CYM) ///gwifir.mehefin.doethineb


Prisiau

Am Ddim
Categori Price

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 21 Medi 2024
10:00 - 17:00