Drysau Agored - Cartref Dylan Thomas
Dyma gartref olaf bardd enwocaf Cymru, Dylan Thomas, a fu'n byw yma gyda'i deulu am bedair blynedd rhwng 1949 ac 1953. Roedd yn lle arbennig iddyn nhw i gyd - cartref teuluol cynnes a hapus. Efallai fod y lle’n fach, ond mae'r awyrgylch a'r atgofion y mae'n eu creu yn wych, ac mae’n denu ymwelwyr o bob cwr o'r byd.
Y tu mewn, fe welwch lawer o bethau i’ch atgoffa o’r amser a dreuliodd Dylan yma, o'r ystafell eistedd glyd lawr stâr i ddelweddau a gwrthrychau o'i fywyd a'i gyfnod lan stâr.
Byddwch yn dysgu am stori Dylan a sut y daeth yn enwog (ac yn ddrwgenwog!), ac yn gweld amrywiaeth o arddangosfeydd a fydd yn dod â chi'n nes at ei feddwl creadigol ac anghonfensiynol.
Dewch i gael cip y tu ôl i’r llen yng Nghartref Dylan Thomas!
I gael cyfle i archwilio straeon Cartref Dylan Thomas yn fwy manwl, ymunwch ag un o'r teithiau dan arweiniad arbenigwyr a byddwch ymhlith y bobl gyntaf i fwynhau'r lleoliad yn y ffordd newydd hon.
Mae nifer y lleoedd wedi'u cyfyngu i ddim ond 30 y dydd, felly peidiwch â cholli eich cyfle! Ewch i wefan CofGâr a dilynwch y ddolen archebu i sicrhau eich lle heddiw.
Rhaid archebu lle ar gyfer y teithiau. Bydd dwy daith am ddim, ar gyfer uchafswm o 15 o bobl yr un, am 11am a 2pm. Bydd y teithiau’n para am oddeutu awr.
Bydd Cartref Dylan Thomas ar agor i ymwelwyr rhwng 10am a 5pm ar y ddau ddiwrnod.
Gallwch archebu eich lle am ddim drwy:
Gwefan: https://cofgar.cymru/
Ebost: info@cofgar.wales
Ffôn: 01994 427420 (yn ystod oriau agor)
Wyneb yn wyneb
Cyfeiriad - Cartref Dylan Thomas, Talacharn, Sir Gaerfyrddin, SA33 4SD.
Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau i'r tŷ yma: https://cofgar.wales/dylan-thomas-boathouse-other/sustainable-travel-to…
Gellir dod o hyd i wybodaeth am hygyrchedd yma: https://cofgar.wales/dylan-thomas-boathouse-other/dylan-thomas-boathous…
Peidiwch â cheisio gyrru'r holl ffordd i Gartref Dylan Thomas. Nid oes mynediad i gerbydau. Os ydych chi'n gyrru, parciwch yn nhref Talacharn.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 27 Med 2025 |
11:00 - 15:00
|
Sul 28 Med 2025 |
11:00 - 15:00
|