Drysau Agored - Castell Cyfarthfa
Ystyrir Castell Cyfarthfa yn eang fel tŷ'r Meistr Haearn sydd wedi'i gadw orau a mwyaf mawreddog yng Nghymru. Mae'r adeilad, sydd wedi'i restru Gradd 1, o arwyddocâd cenedlaethol, hanesyddol a phensaernïol ac fe'i hadeiladwyd ym 1825 ar gyfer y Meistr Haearn, William Crawshay II. Ar ôl i deulu Crawshay adael y castell ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, trodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful y castell yn amgueddfa ac oriel gelf ar y llawr gwaelod ac ysgol ar y lloriau uchaf. Nid yw'r ysgol bellach wedi'i lleoli o fewn y castell, ond mae'r amgueddfa a'r oriel gelf a agorodd ei drysau gyntaf ym 1910, yn parhau hyd heddiw ac yn aml wedi'i ddisgrifio fel 'trysor cudd' oherwydd ei chasgliadau celf ysblennydd a hanes cymdeithasol eclectig. Gall ymwelwyr â'r amgueddfa a'r oriel gelf ddysgu am dreftadaeth gyfoethog Merthyr Tudful o'r goncwest Rufeinig i'r Chwyldro Diwydiannol a thu hwnt. Mae yna hefyd raglen flynyddol o deithiau cerdded, sgyrsiau, gweithdai, llwybrau teuluol ac arddangosfeydd dros dro.
Cyfeiriad – Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, Ffordd Aberhonddu, Merthyr Tudful, CF47 8RE.
Cod post Sat nav: CF47 8PA
Mae Parc Cyfarthfa wedi'i leoli i'r gogledd o Ganol Tref Merthyr Tudful ar yr A470. Mae tua 20 munud o waith cerdded o Ganol y Dref neu mae gwasanaeth bws rheolaidd. O'r orsaf fysiau, cymerwch lwybr Pontsticill neu Drefechan i gatiau'r parc. O'r de, cymerwch draffordd yr M4 i gyffordd 32 a theithiwch i'r gogledd ar yr A470. O'r gogledd, dilynwch yr A470 o Aberhonddu. O'r Canolbarth, cymerwch yr A465 o'r Fenni. Dilynwch yr arwyddion twristaidd brown. Mae digon o le parcio ar gael. Mae'r brif fynedfa trwy'r grisiau i flaen yr adeilad. Mae'r holl barcio ym Mharc Cyfarthfa am ddim.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 20 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|