Drysau Agored - Eglwys Bresbyteraidd St Thomas, Dinbych
Mae’n cynrychioli prif Eglwys Rydd Lloegr yn Ninbych, sef cyfuniad hapus i lawer o enwadau. Yn yr 1870au, roedd angen eglwys Fethodistaidd Saesneg ei hiaith. Roedd Capel Mawr wedi cynnal ambell wasanaeth ar gyfer siaradwyr Saesneg. Wedi’i hadeiladu yn yr arddull Lombardic / Eidaleg, a ddangosir yn y fynedfa dalcennog, gyda thŵr ar safle hen dafarn ac iard y New Inn. Mae’r garreg sylfaen yn dyddio o 1 Hydref 1878 gan Watkin Williams (AS) a Thomas Gee (maer). Ni chynhaliwyd y gwasanaeth cyntaf tan 27 Mehefin 1880. Mae organ drawiadol yr eglwys yn dyddio o 1903, gyda’r hen ystafell ysgol wedi’i hailadeiladu yn 1970.
Bydd Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2024 yn dechrau ddydd Gwener 20 Medi 2024, gyda darlith ddaeareg gyda'r hwyr yn Theatr Twm o'r Nant. Dros y deuddydd canlynol, dydd Sadwrn 21 a dydd Sul 22 Medi 2024 rhwng 10am a 5pm, bydd tua deg ar hugain o safleoedd hanesyddol pwysig yr ardal ar agor i'r cyhoedd, a bydd gweithdai plant a theithiau tywys yn cael eu cynnal hefyd. Bydd gwasanaeth archebu ar gyfer y safleoedd/gweithdai a theithiau tywys yn cynnig nifer cyfyngedig o leoedd ar gael trwy Lyfrgell Dinbych, yn nes at ddechrau’r penwythnos.
Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yma -
www.visitdenbigh.co.uk/cymraeg/
https://twitter.com/OpenDoors_D
https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/
Does dim angen archebu lle.
Cyfeiriad – Eglwys Bresbyteraidd St Thomas, Stryd y Dyffryn, Dinbych, LL16 3AH.
///What3Words:
(Eng) ///spits.removable.steer
(Cym) ///ymddygiad.offerynnwr.ymgyrch
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 21 Medi 2024 |
10:00 - 17:00
|
Sul 22 Medi 2024 |
10:00 - 17:00
|