Drysau Agored - Eglwys Sant Ceinwyr, Llangeinor
Mae Eglwys Llangeinwyr yn adeilad rhestredig Gradd 2* hynafol. Credir i eglwys gael ei sefydlu yn Llangeinor cyn belled yn ôl â’r 6ed ganrif. Mae’n bosibl bod yr eglwys wreiddiol wedi’i gwneud o bren a’i disodli gan eglwys gerrig a adeiladwyd yn yr arddull Normanaidd yn ystod rhan gyntaf y 12fed ganrif. Credir i’r adeilad presennol gael ei ddechrau yn y 15fed ganrif ac ychwanegwyd y tŵr yn yr 16eg ganrif. Mae lle i gredu hefyd mai’r ffont Normanaidd gwreiddiol o garreg Sutton yw’r un sydd yno.
Bydd yr eglwys ar agor i ymwelwyr bob dydd Sadwrn a dydd Sul, 12.30pm i 3.30pm, drwy gydol mis Medi. Mae hen gofnodion ar gael i'w gweld.
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau.
Eglwys Sant Ceinwyr, Llangeinor, Pen-y-bont ar Ogwr, CF32 8RX.
Eglwys ar ben bryn mewn ardal gadwraeth, gyda maes parcio ar gael. Nid oes trafnidiaeth gyhoeddus i'r eglwys. Mae'r safle bws agosaf ym mhentref Llangeinor. Mae'r eglwys yn daith gerdded hir i fyny'r allt o'r pentref.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 06 Sep 2025 |
12:30 - 15:30
|
Sul 07 Sep 2025 |
12:30 - 15:30
|
Sad 13 Sep 2025 |
12:30 - 15:30
|
Sul 14 Sep 2025 |
12:30 - 15:30
|
Sad 20 Sep 2025 |
12:30 - 15:30
|
Sul 21 Sep 2025 |
12:30 - 15:30
|
Sad 27 Sep 2025 |
12:30 - 15:30
|
Sul 28 Sep 2025 |
12:30 - 15:30
|