Drysau Agored - Eglwys St Hilary, Llanrhos, Llandudno
Adeiladwyd eglwys yma am y tro cyntaf yn y 6ed ganrif gan y Tywysog Maelgwn Gwynedd o Gastell Deganwy, sydd wedi’i gladdu dan ddrws y de, yn ôl pob sôn.
Mae’r placiau ar y muriau yn dangos hanes rhai teuluoedd lleol, fel y Wyniaid, y Mostyniaid, y Prendergastiaid, a’r Pughiaid, sydd wedi’u claddu yn y claddgelloedd – gwledd go iawn i haneswyr.
Mae’r fynwent wedi’i hamgylchynu gan fywyd gwyllt, ac mae ganddi dros drigain o feddau a chofebau i’r rhai a fu farw yn y ddau ryfel byd.
Ar gyfer gŵyl Drysau Agored, bydd:
copïau o gofrestri sydd ar gael i’w harchwilio er mwyn i ymwelwyr ddod o hyd i’w perthnasau ac olrhain eu hachau.
Cyfeiriad – Eglwys Sant Ilar, Ffordd Conwy, Llanrhos, Llandudno, LL30 1RW.
Mae Llanrhos ar y ffordd o Ddeganwy i Landudno ac yn agos at ffordd gyswllt Llandudno o Gylchfan y Gath Ddu, Cyffordd 19 yr A55.
Does dim angen archebu lle.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 13 Medi 2025 |
10:00 - 13:00
|