Skip to main content

Mae Bowers Yard yn cynnwys adeilad fferm bach o gerrig a llechi a dwy sied o frics coch. Mae wedi ei leoli y tu ôl i Bowers Villas ac ar draws y lôn o hen Orsaf Bysiau Crosville. Bydd Amgueddfa Dinbych yn dangos lluniau o'r ardal a sut y datblygodd o dir fferm hyd heddiw. Yn ogystal, bydd lluniau o'r Farchnad Anifeiliaid, sydd bellach yn archfarchnad Morrisons. Bydd casgliad o fideos yn cael eu dangos yn yr adeilad cerrig a lleolir paentiadau gan artistiaid lleol yn y ddwy sied.

Mae Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2024 yn lansio ar ddydd Gwener 20 Medi 2024 gyda darlith nos mewn daeareg yn Theatr Twm o'r Nant. Dros y ddau ddiwrnod sy’n dilyn, dydd Sadwrn a dydd Sul 21 a 22 Medi 2024 o 10am tan 5pm, bydd tua deg ar hugain o safleoedd hanesyddol bwysig lleol ar agor i'r cyhoedd, yn ogystal â gweithdai plant a theithiau tywys. Bydd gwasanaeth archebu ar gyfer y safleoedd/ gweithdai a'r teithiau tywys, yn cynnig nifer cyfyngedig o leoedd, ar gael drwy Lyfrgell Dinbych, yn agosach at ddechrau'r penwythnos.

Gellir cael gwybodaeth bellach ar http://www.visitdenbigh.co.uk/cymraeg/, https://twitter.com/OpenDoors_D

 a https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/

LL16 3LP
What3Words: /
(Eng) ///contour.rekindle.firmer
(CYM) ///diferiad.ffonia.tyllais


Prisiau

Am Ddim
Categori Price

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 21 Medi 2024
10:00 - 17:00
Sul 22 Medi 2024
10:00 - 17:00