Drysau Agored - Island House, Talacharn
Mae cloddiadau archeolegol Island House yn archwilio'r cei/glanfa ganoloesol gyntaf i gael ei darganfod yng Nghymru, ynghyd â Thŷ Neuadd gyda lle tân canolog. Mae'r safle yn union islaw a’r drws nesaf i Gastell Talacharn. Mae gwaith cloddio yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.
Rhaid archebu lle ymlaen llaw. 10 ymwelydd fesul slot 30 munud, oherwydd natur y safle. Byddwch yn gweld safle archeolegol sy’n dal i gael ei gloddio. Bydd ardal wylio er mwyn gweld y cloddiadau archeolegol helaeth.
Rhaid gwneud pob archeb drwy ebost - info@islandhouse.wales
Cyswllt - Stephen Kirkwood
Lleoliad - Island House, Y Grist, Talacharn, SA33 4SA.
Mae Island House yn union gyferbyn â maes parcio'r blaendraeth. Bydd mynediad i'r safle trwy'r drws gwyn y drws nesaf i’r lloches fysiau ar y Grist.
Bydd arwyddion wedi’u gosod.
Mae Island House ar Stryd Wogan a’r Grist, yn union islaw Castell Talacharn.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 20 Med 2025 |
11:30 - 16:00
|
Sul 21 Med 2025 |
11:30 - 16:00
|