Drysau Agored - Parlwr y Maer, a lleoliadau eraill yn Ninbych-y-pysgod
Dyma’r lleoliadau sy'n cymryd rhan yn Drysau Agored eleni:
Cyfrinfa Seiri Rhyddion Dinbych-y-pysgod
Gardd Allen's View
Teml y Pedwar Gwynt a'r Amffitheatr
Parlwr y Maer
Clochdy Eglwys y Santes Fair
Tŵr Tywydd Dinbych-y-pysgod
Eglwysi Dinbych-y-pysgod
Disgrifiad sy'n ymwneud â Pharlwr y Maer yn unig - Yn yr ystafell hon, sy'n cynnwys un o dyrau muriau'r dref ganoloesol, y mae'r cyngor tref yn cyfarfod erbyn hyn. Mae'n llawn gwrthrychau sy’n rhan o hanes y cyngor tref.
Cynhelir y digwyddiad hwn ddydd Sul 28 Medi, ac mae pob lleoliad ar agor am 1 awr i bobl edrych o gwmpas, neu cynhelir taith dywys ar amser penodol.
Rhaid archebu lle ymlaen llaw. Pan fyddwch chi'n archebu, cewch wybod yr amseroedd, er mwyn sicrhau nad yw pob lleoliad yn orlawn. Y rhif ffôn ar gyfer archebion yw - Cyngor Tref Dinbych-y-pysgod - 01834 842730.
Cod post - SA70 7JD.
Sylwch - does dim lle parcio yn Nheml y Pedwar Gwynt - mynediad ar droed yn unig.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sul 28 Med 2025 |
12:00 - 16:00
|