Skip to main content

Lleolir hen Eglwys Sant Anne ym mhentref Ynys-hir, ym Mywoliaeth Tylorstown yng Nghwm Rhondda. Fe'i sefydlwyd yn 1885. Er nad yw'n cael ei ddefnyddio bellach fel man addoli, mae grŵp bach cymunedol yn ceisio achub yr adeilad rhag cael ei ddymchwel a'i droi'n Ynys y Cwtsh: man cymunedol i gynnal digwyddiadau i drigolion Ynys-hir, Wattstown a thu hwnt.

Ar gyfer Drysau Agored, rhoddir sgwrs am hanes cysylltiad elusen Champions for Ynyshir gydag Ynys y Cwtsh ddydd Mawrth 24 Medi, gydag arddangosfa fach am hanes yr adeilad i’w gweld hefyd. Teitl y ddarlith am 6:30pm yw "All Singing From the Same Hymn Sheet: Ynys y Cwtsh, the story so far".

Bydd yr arddangosfa hon hefyd ar gael ddydd Sadwrn 28 Medi, 10am-2pm, pan fydd gwerthiant pen bwrdd yn cael ei gynnal.

Nid oes angen archebu lle.

Cyfeiriad - Cyn Eglwys a Neuadd Goffa Sant Anne, Teras yr Eglwys, Ynys-hir, CF39 0ET.

Nid oes gorsaf drenau ger y lleoliad (yr agosaf yw gorsaf drenau Porth, a byddai angen i ymwelwyr wedyn deithio i Ynys-hir).
Mae'r arhosfan fysiau agosaf y tu allan i Westy'r Orsaf (Station Hotel) ar Heol Ynys-hir: oddi yma gall ymwelwyr gerdded i lawr y ffordd wrth ymyl Gwesty'r Orsaf, croesi'r bont, ac mae Ynys y Cwtsh ar y dde.
Yn anffodus, dim ond parcio ar y stryd sydd ar gael.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 28 Medi 2024
10:00 - 14:00