Drysay Agored - Mystwyr Abertawe
Mystwyr Abertawe, a elwir yn swyddogol yn Eglwys y Santes Fair, yw prif eglwys Anglicanaidd Abertawe, ac mae wedi’i lleoli yng nghanol y ddinas. Mae’r adeilad rhestredig Gradd 2 hanesyddol hwn ar Stryd y Gwynt yn dyddio'n ôl i'r 14eg ganrif, er ei fod wedi'i ailadeiladu'n helaeth ar ôl difrod bomiau’r Ail Ryfel Byd.
Mae'r tŵr modern trawiadol, a gwblhawyd yn y 1960au, yn hawlio’i le yn y dirwedd drefol, ochr yn ochr â phensaernïaeth gyfoes o wydr a meini. Dyma eglwys ddinesig Abertawe, ac mae’n rhan o’r ardal fasnachol brysur, wedi'i hamgylchynu gan siopau, bwytai, a lleoliadau diwylliannol. Mae ei lleoliad canolog yn golygu ei bod yn hawdd ei chyrraedd, ac mae’n dirnod arwyddocaol yn ail ddinas fwyaf Cymru.
Dewch i ddigwyddiad Drysau Agored arbennig ym Mystwyr Abertawe, lle gallwch archwilio'r eglwys restredig Gradd 2 wych hon yng nghanol y ddinas. Darganfyddwch gyfoeth o hanes sy'n rhychwantu dros 600 o flynyddoedd, o wreiddiau canoloesol i’r ailadeiladu ar ôl y rhyfel.
Cewch weld y tŵr modern trawiadol, ffenestri gwydr lliw hardd, a thrysorau pensaernïol sy'n cyfuno treftadaeth hynafol â dyluniad cyfoes. Bydd y gwirfoddolwyr gwybodus wrth law i rannu straeon diddorol am rôl y Mystwyr fel eglwys ddinesig Abertawe a'i harwyddocâd i'r gymuned leol.
Mynediad am ddim gyda theithiau tywys ar gael trwy gydol y dydd. Bydd lluniaeth yn cael ei gweini. Perffaith ar gyfer teuluoedd, y rhai sydd â diddordeb mewn hanes, ac unrhyw un sy'n chwilfrydig am y tirnod eiconig hwn yng nghanol ail ddinas Cymru.
Nid oes angen archebu ymlaen llaw.
Cyfeiriad - Mystwyr Abertawe (Eglwys y Santes Fair), Stryd y Gwynt, Abertawe, SA1 1DE.
Wedi'i leoli yng nghanol dinas Abertawe.
Mae'r eglwys wedi'i lleoli ar gyffordd Stryd y Gwynt a Stryd y Geifr.
Mae’n hawdd ei chyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan fod gorsaf fysiau Abertawe gerllaw.
Ychydig iawn o barcio ar y stryd sydd ar gael; mae meysydd parcio cyhoeddus o fewn pellter cerdded.
Cyfeirnod map yr Arolwg Ordnans: SS 65494 93425
Cyfarwyddiadau -
Ar y trên: Gorsaf Reilffordd Abertawe - 0.3 milltir / 5 munud ar droed ar hyd Stryd y Castell a Stryd y Gwynt.
Ar fws: Gorsaf Fysiau Abertawe - 0.2 milltir / 3 munud ar droed ar hyd Ffordd y Brenin i Stryd y Gwynt. Mae holl lwybrau bws canol y ddinas yn stopio gerllaw.
Mewn car: Dilynwch yr arwyddion am Ganol Dinas Abertawe. Ychydig iawn o barcio ar y stryd sydd ar gael. Meysydd parcio agosaf: Parc Tawe
(SA1 2AL) neu Ganolfan Siopa’r Quadrant (SA1 3QG) - y ddau 5 munud i ffwrdd ar droed.
O'r M4: Cyffordd 42 neu 44, dilynwch yr A483 i ganol y ddinas, yna’r arwyddion ar gyfer ardal Stryd y Gwynt/Stryd y Castell.
Ystyriaethau Mynediad:
Mae sawl gris yn y brif fynedfa trwy Stryd y Gwynt – mae mynedfa amgen a gwastad ar gael trwy’r fynedfa ochr (gofynnwch i’r stiwardiaid os gwelwch yn dda).
Does dim lleoedd parcio pwrpasol ar y safle.
Gall Stryd y Gwynt fod yn llawn pobl ar droed yn ystod y dydd.
Mae'r eglwys wedi'i lleoli mewn ardal sydd wedi’i chyfyngu i gerddwyr yn unig yn ystod oriau penodol.
Cysylltwch â'r eglwys ymlaen llaw os oes arnoch angen gwybodaeth am hygyrchedd neu gymorth.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 06 Med 2025 |
10:00 - 15:00
|