CARREG ATEB Bryn Celli Ddu
Mae CARREG ATEB yn dod i Fryn Celli Ddu ar 22 Mehefin 2024, i ddathlu’r cysylltiadau rhwng Cymru, Iwerddon a’r Alban, gan uno a chymylu celf gwerin a thraddodiadau gwerin trwy’r syniad o ymgynnull, symud, gwyliau a gorymdaith.
Yn cael ei hadnabod fel un o’r safleoedd archeolegol mwyaf hydolus ym Mhrydain, adeiladwyd yr heneb 5,000-mlwydd-oed unwaith i warchod a thalu parch at weddillion y cyndeidiau.
Eleni bydd prosiect Bryn Celli Ddu, partner gyda Jeremy Deller a chomisiwn ‘The Triumph of Art’ gyda’r Oriel Genedlaethol. Mae’r bartneriaeth sefydledig hon yn cynnwys Jeremy Deller, Mostyn, Frân Wen, Duncan of Jordanstone College of Art & Design, ac Armagh Rhymers ac mae’n dathlu gwyliau, cynulliadau, a chelf yn y byd cyhoeddus.
Mae prosiect Bryn Celli Ddu yn gydweithrediad rhwng Cadw, Think Creatively, Cyngor Celfyddydau Cymru, a Phrifysgol Fetropolitan Manceinion.
Archebwch eich tocynnau ar-lein ymlaen llaw (ni ellir ad-dalu tocynnau a brynwyd).
Archebwch docyn i bob aelod o’ch parti.
Sylwch fod tocynnau ar gael ar-lein yn unig. Ni fydd tocynnau ar gael wrth y drws.
Mae Bryn Celli Ddu yn sefyllfa ar dir fferm gwledig ac mae’r digwyddiad yn agored i’r elfennau. Gwisgwch eisgidiau call, a dillad i’w defnyddio yn yr awyr agored.
Drysau’n agor: 4.00pm
Digwyddiad yn dechrau: 4.30pm
Digwyddiad yn dod i ben: 7.30pm
Darperir parcio am ddim ar fferm Bryn Celli Ddu. Dilynwch yr arwyddion i’r gofeb a dilynwch gyfarwyddiadau ein stiward. Côd post SAT NAV: LL61 6EQ
Cyrhaeddwch yn syth i Bryn Celli Ddu o 4.00pm. Bydd lluniaeth ar gael. Croeso i gadeiriau gwersylla a blancedi.
Mae maes parcio Bryn Celli Ddu ar ochr y ffordd i bentref Llanddaniel Fab. Sylwch yn gyntaf y bydd angen ichi groesi ffordd o’r maes parcio i fynedfa’r heneb. Mae’r fynedfa i’r safle i lawr ramp ac ar hyd llwybr a thrwy giât i mewn i’r gofod heneb.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i CARREG ATEB!
Prisiau
Categori | Price | |
---|---|---|
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sul 22 Meh 2025 |
16:00 - 19:30
|
Archebwch |