Skip to main content

Yn swatio ar glogwyni'r pentref, yn syllu allan dros draeth hudolus Maenorbŷr, mae'r castell yn sefyll fel symbol oesol o hanes a swyn. Mae'r perl Normanaidd hynod hwn yn dal trysorfa o straeon a chwedlau o fewn ei muriau, gan ddenu ymwelwyr i gychwyn ar daith ddarganfod.

Wedi'i haddurno â thyredau hardd sy'n atgoffa rhywun o stori dylwyth teg, neuadd fawreddog yn llawn adleisiau o'r gorffennol, capel tawel, a gerddi wedi'u tirlunio'n ofalus, mae'r castell yn cyflwyno hafan ddelfrydol ar gyfer ymlacio, gan ganiatáu i bobl ymgolli yn yr awyrgylch hudolus sy'n treiddio trwy ei amgylchoedd.

Ymunwch ag un o deithiau'r castell a darganfod stori Gerallt Cymro (yr ysgolhaig mawr o'r 12fed ganrif) a anwyd yng Nghastell Maenorbŷr - sy'n enwog heddiw am ei groniclau a'i ddisgrifiadau o fywyd yn ei gyfnod. Neu os yw'n well gennych, codwch fap a chymryd taith hunan-dywys a mwynhau'r castell wrth eich pwysau eich hun.

Wedi hynny, beth am gael seibiant haeddiannol yn yr ystafell de swynol ac eistedd ac ymlacio yn yr ardd hardd.

Gall fforwyr ifanc fwynhau dysgu am y Capten Jolly Jack a chwilio am ei drysor o amgylch y castell.

Does dim angen archebu lle.

Castell Maenorbŷr, Maenorbŷr, Dinbych-y-pysgod, SA70 7SY
What3Words ///earmarked.entrust.expressed

Parcio: Rydyn ni’n argymell eich bod yn parcio ym Maes Parcio Traeth Maenorbŷr (mae taliadau’n berthnasol). Yna mae’n daith gerdded fer i fyny’r bryn i ochr “mynedfa gudd” y castell. Mae parcio cyfyngedig i bobl anabl yn y Castell. Cysylltwch â ni cyn eich ymweliad am fwy o wybodaeth.

Bws: Mae’r bws yn stopio yn y pentref.

4pm yw’r hwyraf y gallwch fynd i mewn ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 14 Medi 2024
10:00 - 17:00
Sul 15 Medi 2024
10:00 - 17:00