Skip to main content

Castell Y Waun, a gafodd ei gwblhau yn 1310 yw'r castell Cymreig olaf o deyrnasiad Edward Iaf lle mae pobl yn dal i fyw ynddo heddiw. Ymhlith y nodweddion o'i 700 mlynedd o fodolaeth, mae'r tŵr canoloesol a'r dwnsiwn, Galeri Hir o'r 17eg ganrif, yr ystafelloedd byw mawreddog o'r 18fed ganrif, neuadd y gweision a’r golchdy hanesyddol.

Mae'r gerddi arobryn yn cynnwys yw wedi'u clipio, borderi blodau, llwyni a gerddi creigiog. Mae teras gyda golygfeydd godidog yn edrych dros wastadeddau Swyddi Gaer ac Amwythig.

Mae'r parcdir yn gynefin i infertebratau prin a blodau gwyllt ac mae'n gynnwys llawer o goed aeddfed a gatiau haearn ysblennydd, a gafodd eu gwneud gan y brodyr Davies yn 1719.

Does dim angen archebu lle.

Cyfeiriad - Castell y Waun, Y Waun, Wrecsam, LL14 5AF.

Mewn car: mae'r maes parcio yn Home Farm. Ewch i mewn trwy'r swyddfa docynnau - mae mynedfa'r castell yn 200 llath (i fyny allt serth).
Llywiwr Lloeren: pan gyrhaeddwch y Waun dilynwch yr arwyddion yn lle defnyddio eich Llywiwr Lloeren, gan y gall hyn fynd â chi i'r ffordd anghywir.
Ar Droed: mae llwybrau troed a ganiateir o bentref y Waun drwy gydol y flwyddyn ac o Lwybr Clawdd Offa (Ebrill i Hydref yn unig). Mae llwybrau mynedfeydd ac allanfeydd yn darparu mynediad cerdded; mae'r ddau yn bellter tebyg - tua 1½ milltir i swyddfa docynnau Home Farm. Dilynwch yr arwyddion i fynd i'r Swyddfa Docynnau cyn cerdded i fyny at y castell a'r gerddi
Ar y trên: Mae Gorsaf y Waun ar y llinell rheilffordd rhwng Amwythig a Chaer. O orsaf drenau'r Waun mae'n ¼ milltir i giatiau'r ystâd, ac 1½ milltir i gyd i'r castell. Gweler y cyfarwyddiadau ar droed am fwy o fanylion.
Ar fws: bydd y llwybr bws Arriva 2/A o Wrecsam i Groesoswallt yn gollwng teithwyr ym Mhentref y Waun ger yr orsaf drenau.

Gwybodaeth am lwybrau beicio:  https://www.sustrans.org.uk/nationalcyclenetwork/

Mae Castell y Waun ar ben bryn serth. Mae bws mini ar gael i fynd ag ymwelwyr o'r maes parcio i'r brig. Mae sgwter symudedd hefyd ar gael i'w logi - ffoniwch ymlaen llaw i archebu.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 14 Medi 2024
10:00 - 17:00