Skip to main content

Mae Castell Ystumllwynarth yn adeilad hanesyddol Gradd 1 Normanaidd ac yn Heneb restredig yng nghanol y Mwmbwls, sydd wedi'i leoli uwchben y pentref. Roedd y castell hwn, sydd mewn cyflwr da, ac yn dyddio'n ôl i'r 11eg ganrif, wedi'i feddiannu gan deulu De Braose a oedd yn dal arglwyddiaeth dros Gŵyr yn y 13eg ganrif.

Bydd mynediad am ddim i’r castell i bawb, a bydd teithiau tywys yn cael eu cynnal gan wirfoddolwyr drwy gydol y dydd. Bydd y teithiau hyn yn edrych ar hanes, pensaernïaeth ac archaeoleg hynod y castell. 

Cadwch lygad ar y dudalen we yn y cyfnod cyn y digwyddiad am ddiweddariadau ar weithgareddau ychwanegol - www.abertawe.gov.uk/castellystumllwynarth

Cyfeiriad - Castell Ystumllwynarth, Rhodfa’r Castell, Y Mwmbwls, Abertawe, SA3 4BA.

Edrychwch ar wefan y castell am gyfarwyddiadau a gwybodaeth am fynediad -
www.abertawe.gov.uk/castellystumllwynarth

Mae’n bosibl y bydd y grisiau serth yn ei gwneud yn anodd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio gael mynediad. Mae modd cael mynediad i’r ganolfan ymwelwyr ac yno ceir cyflwyniad clyweledol sy’n cyflwyno ystafelloedd y castell.

Does dim angen archebu lle.


Prisiau

Am ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 14 Medi 2024
11:00 - 17:00