Drysau Agored - Sant Mihangel a'r Holl Angylion, Machen Isaf
Mae Eglwys Machen Isaf yn drysor cudd, wedi'i lleoli o fewn pellter teithio hawdd o Gaerdydd a Chasnewydd. Mae Cadw’n ei disgrifio fel lle rhyfeddol, a gellir ystyried yr eglwys hon ymysg y 10% uchaf o adeiladau pwysicaf Cymru a Lloegr. Yn dyddio o 1102, mae'n un o'r adeiladau eglwysig hynaf yn hen sir Fynwy. Mae Capel Morgan yn adeilad Gradd II* o'r 18fed ganrif a dyma fan claddu teulu cefnog y Morganiaid o Machen, Rhiw’r-perrai, ac yn ddiweddarach Tredegar. Ynghyd â'r cofebau godidog yn y capel, ceir hefyd y casgliad mwyaf o arfbeisiau mewn unrhyw eglwys yng Nghymru. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r eglwys wedi cael gwaith sylweddol i'r to, Capel Morgan a thŵr y gloch o’r 15fed ganrif, fel bod yr adeilad unigryw a hardd hwn yn cael ei gadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Bydd yr eglwys ar agor bob prynhawn Sul tan 22 Medi, gydag arddangosfeydd arbennig am y prosiect ECO Ffydd mewn Natur a ffotograffau o Archif Cofio Machen ar gael ar 8, 15 a 22 Medi. Bydd cofrestr y plwyf sy'n dyddio o ddiwedd yr 17eg ganrif hefyd ar gael i'w harchwilio ac ar gyfer gwneud ymchwil teulu. Mae arweinlyfrau ar gael a gallwch gael teithiau sain hunan-dywys ar eich ffôn.
Dim angen archebu.
Cyfeiriad – Sant Mihangel a’r Holl Angylion, Machen Isaf, Casnewydd , Gwent, NP10 8GU.
Mae'r eglwys 100 llath i'r gogledd o ffordd yr A468 o Gasnewydd i Gaerffili yn ne Cymru. Mae arwydd brown ar gyfer yr eglwys ar y ffordd i Machen Isaf.
Darperir trafnidiaeth gyhoeddus gan bws rhif 50.
Mae digon o fannau parcio y tu allan i'r eglwys.