Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Fel rhan o gyhoeddiad carfan Cymru ar gyfer pencampwriaeth UEFA EURO 2020, mae CBDC, mewn partneriaeth efo Cadw, wedi lansio ymgyrch arbennig ledled y wlad dros yr haf.

Fe laniodd 26 draig, #DreigiauCymru, mewn meysydd hanesyddol ar draws Cymru dros y dyddiau cyn i’r garfan cael ei gyhoeddi ar ddydd Sul 30 o Fai. Mae pob chwaraewyr sydd wedi cael y fraint o gynrychioli Cymru yn y bencampwriaeth wedi cael ei phenodi ar gyfer castell neu faes ledled y wlad. Gall cefnogwyr ymweld â’r dreigiau a chadw nodyn o’i hantur trwy gofnodi’r ymweliad mewn llyfr sticeri digidol ar TogetherStronger.Cymru.


Gall cefnogwyr ymweld â’r dreigiau yn ystod y bencampwriaeth a rhannu hunlun a’r cyfryngau cymdeithasol trwy rannu’r hashnod #DreigiauCymru. Fydd y wefan TogetherStronger.Cymru hefyd yn dangos gweithgareddau CBDC a fydd yn digwydd yn yr ardal leol yn ogystal â gwybodaeth amdano’r maes hanesyddol â’r chwaraewr mae’r ddraig yn cynrychioli.
Mae CBDC yn gweld hanes a diwylliant Cymru, yn ogystal â’r iaith Cymraeg, yn rhan bwysig o’r Gymdeithas a bwriad y bartneriaeth yw codi ymwybyddiaeth amdano hanes Cymru trwy annog cefnogwyr i ymweld â meysydd Cadw. Bydd Cadw yn cynnig ad-daliad 20% ar gyfer aelodaeth Cadw i unrhyw aelod o’r Wal Goch yn ystod y bencampwriaeth.
Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, sy'n gweithio ar gyfer amgylchedd hanesyddol hygyrch sydd wedi'i ddiogelu'n dda er budd cenedlaethau'r dyfodol.
Cyflawnir hyn drwy gyflawni prosiectau cadwraeth uchelgeisiol i sicrhau bod treftadaeth adeiledig y wlad yn parhau i gefnogi lles economaidd Cymru, a gweithio'n agos gyda phartneriaid o'r un anian ― fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru ― i annog pobl Cymru a thu hwnt i goleddu a mwynhau safleoedd hanesyddol Cymru.

Ewch i weld pa safleoedd sydd yn cymryd rhan a chasglwch eich #DreigiauCymru heddiw!